Mae ‘na farchnad fawr am gŵn bach o Gymru dros y ffin yn Lloegr. Ry’n ni’n ymchwilio i gwynion am un gwerthwr cŵn o Sir Gaerfyrddin sydd wedi gwerthu nifer o gŵn sâl i’w gwsmeriaid.
Yn ddiarwybod i Huw Thomas, mae’r Byd ar Bedwar wedi bod yn ffilmio ei weithgareddau yn gudd ers saith mis. Yn y rhifyn hwn ry’n ni’n dangos tystiolaeth o’r modd mae e’n camarwain ei gwsmeriaid, gan fynnu atebion gan y dyn ei hun.
