Rhydfelen oedd ysgol gyfun Gymraeg gynta de Cymru. Erbyn hyn mae’r ysgol wedi symud i safle newydd, gydag enw newydd, Garth Olwg.
Fis diwetha’ cafodd y diddanwr plant, Martyn Geraint, ei ddi-arddel o’r corff llywodraethol ar ôl brwydro i ail-enwi’r ysgol yn Rhydfelen unwaith eto. Yn y rhifyn yma o’r Byd ar Bedwar mae e’n cyhuddo awdurdod addysg Rhondda Cynon Taf o ymyrraeth amhriodol yn rheolaeth yr ysgol.
Yn y rhaglen hefyd, mae cadeirydd y llywodraethwyr yn siarad yn gyhoeddus m y tro cynta am y ffrae.
Helynt Ysgol Garth Olwg – Y Byd ar Bedwar – 24 Ebrill – 21.00
