ARCHIF Y BYD AR BEDWAR
-
Ffrae Ysgolion Gwynedd 11.12.07
Mae cynlluniau Cyngor Gwynedd i ad-drefnu ysgolion cynradd y sir wedi codi nyth cacwn.
Mae cannoedd o rieni wedi protestio y bydd y cynlluniau’n amharu ar addysg eu plant.
Ond mae’r Cyngor yn mynnu bod rhaid cau dau ddeg naw o ysgolion bach ac uno eraill.
Ydy Cyngor Gwynedd yn bradychu ysgolion bach cefn gwlad?
AIDS yn Lesotho 04.12.07
Bob diwrnod mae 80 o bobol yn marw o AIDS yn Lesotho, Affrica. Mae tua 100,000 o blant y wlad yn amddifad.
Yn dilyn ‘Diwrnod AIDS y Byd’, rhaglen arbennig am daith Keneoue Morgan o’r Bala ‘nôl i wlad ei mebyd, lle mae bron i hanner y merched ifanc wedi eu heintio â HIV.
-
Heroin 27.11.07
Mae dwyn, puteinio ac injectio cyffuriau caled yn arferion dyddiol i un pâr ifanc o Gaerdydd.
Tra’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Glantaf roedd Gareth yn chwarae pêl fasged dros Gymru. Nawr yn 30 oed, mae’n saethu heroin i’w wythiennau o leia’ ddwy waith y dydd.
Golwg unigryw a chignoeth ar fywyd dau sy'n methu byw heb heroin.
Hunanladdiad 20.11.07
Wythnos yn ôl claddwyd dau fachgen ifanc o orllewin Cymru ar yr un prynhawn. Roedd y ddau wedi crogi’u hunain.
Hunanladdiad yw’r achos mwyaf cyffredin am farwolaeth dynion ifanc rhwng 15 a 35 oed.
Mewn cyfres newydd o’r Byd ar Bedwar bydd teulu’r ddau yn siarad am eu profedigaeth.
-
Yfwyr ifanc 10.07.07
Pam bod plant ysgol yn bwrw’r botel? Sut mae’r yfwyr dan oed yn llwyddo i brynu alcohol? A beth yw’r effaith ar eu hiechyd?
Mae’r Byd ar Bedwar wedi ffilmio plant mor ifanc a 13 oed yn yfed yn gyhoeddus. Heno stori’r plant sy’n hoffi meddwi.
O blaid clymblaid? 03.07.07
Ddeufis ar ôl etholiad y Cynulliad, bydd Y Byd ar Bedwar yn holi pam bod yna ddim llywodraeth sefydlog ym mae Caerdydd.
Mae Aelodau Cynulliad Llafur a Phlaid Cymru yn dweud eu bod nhw bellach yn barod i ddod at ei gilydd i sefydlu clymblaid. Ond ydy aelodau cyffredin y pleidiau yn awyddus i weld y gelynion yn uno?
-
Rhieni sy'n trio lladd eu plant 19.06.07
Dridiau ar ôl ‘Dolig 2005, fe wnaeth tad o’r gogledd drio lladd ei hun a’i ddwy ferch fach drwy ddal eu llaw a neidio i lyn. Nawr mae e wedi ei garcharu am wyth mlynedd.
Heno bydd mam y plant yn siarad am y tro cynta ers yr achos, a’n galw am gosb lymach i’r tadau sy’n trio lladd eu plant.
Dyddiau olaf y milwr di-gartref 12.06.07
Fe wnaeth Ian Wyn Jones ymuno â’r fyddin pan oedd e’n 16 oed. Ddeufis nôl yn 35 oed fe fu farw.
Yn ei ddyddiau olaf, fe wnaeth adael i’r Byd ar Bedwar gael cipolwg ar ei fywyd trasig. Roedd e’n ddi-gartre, yn byw mewn hen doiledau cyhoeddus, ac yn cyhuddo’r fyddin o droi cefn ar gyn-filwyr ar ôl iddyn nhw adael maes y gad.
-
Y byd tanddaearol Tokyo 05.06.07
Saith mlynedd nôl fe gaeth Lucie Blackman ei llofruddio’n Siapan tra’n gweithio fel ‘hostess’. Ond pa mor saff yw hi i ferched o Gymru weithio yno erbyn hyn?
Mae un o newyddiadurwyr Y Byd ar Bedwar wedi bod yn gweithio’n gudd i drio darganfod a ydy’r merched yn cael eu hecsbloetio?
Heno y dystiolaeth o fywyd tanddaearol clybiau Tokyo.
Shambles Shambo 22.05.07
Ers i Shambo’r bustach gael TB, mae cyfryngau’r byd wedi troi eu camerâu at bentre Llanpumsaint. Ond faint ry’ ni’n gwybod am y gymuned Hindŵaidd yn Skanda Vale?
Mae’r Byd ar Bedwar wedi treulio’r wythnos dyngedfennol yma ym mywyd yr anifail sanctaidd tu fewn i furiau’r temlau. Heno hefyd cawn stori’r Cymry lleol sydd wedi gwrthdaro gyda mynachod Skanda Vale.
-
Pêl droed v Hiliaeth 15.05.07
Wrth i’r tymor pêl-droed ddod i ben, mae cyhuddiadau o hiliaeth yn dal i wynebu clybiau’n y gogledd.
Mae nhw’n dweud bod y Gymdeithas Bêl-droed yn gorymateb, ond heno mae un chwaraewr du yn dweud bod e’n aml yn clywed sylwadau hiliol gan gefnogwyr y gogledd.
Pêl-droed yn wynebu hiliaeth ar ddechrau tymor newydd o’r Byd ar Bedwar.
Etholiad '07 01.05.07
Ydych chi wedi diflasu ar addewidion gwleidyddion? Wel heno, tro’r etholwyr yw hi i fynnu atebion.
Mae’r Byd ar Bedwar wedi dewis panel o bedwar i groesholi’r ymgeiswyr. A fydda nhw’n chwysu o flaen y lens? Neu a fydda nhw’n eich argyhoeddi chi fod eu plaid nhw’n haeddu pleidlais ar Fai y 3ydd?
-
Burberry 27.02.07
Mae Burberry ar fin cau eu ffatri yn Nhreorci, ac mae amheuon bod y gwaith yn diflannu i Tseina.
Heno mae’r Byd ar Bedwar yn teithio i Tseina i weld beth yw’r amodau gwaith yn y ffatrioedd dillad, ac i ymchwilio i honiadau bod nwyddau’r cwmni Prydeinig eisoes yn cael eu cynhyrchu yno.
-

Hawliau Hoywon 20.02.07
Ydi Cymru’n wlad sy’n trin pobol yn anheg oherwydd eu tueddiad rhywiol?
Bydd deddfwriaeth newydd yn gwneud hi’n anghyfreithlon i berchennog gwely a brecwast wrthod ystafell ddwbwl i gwpwl hoyw.
Heno mae Y Byd ar Bedwar yn dilyn dau ddyn hoyw i weld pa groeso sydd ar gael i nhw.
-
Smokies 13.02.07
Mae Carmelo Gale yn ymgyrchu i gyfreithloni cig ‘smokies’. Yn ol y ffarmwr o’r gorllewin, gallai hynny roi marchnad newydd i ffermwyr defaid Cymru.
Ond mae amheuaeth bod ‘smokies’ o Gymru eisoes ar werth yn ninasoedd Lloegr.
Heno mae’r Byd ar Bedwar yn mynd i siopa’n marchnadoedd Llundain, a’n ymchwilio i’r cysylltiad Cymreig yn y rhwydwaith anghyfreithlon.
-
Geriant Jones a Phrifysgol Cymru 06.02.07
Mae’r colofnydd plaen ei dafod Geraint Jones yn dweud iddo gael ei sensro a’i ddiswyddo gan bapur newydd Y Cymro.
Mae’n dal i aros esboniad llawn, ac yn ddig na chafodd dâl am ei golofn olaf.
Heno ar Y Byd Ar Bedwar, pwy roddodd daw ar Geraint Jones.
-
Camerau Cyflymder 30.01.07
Llynedd fe gyhoeddodd Heddlu’r Gogledd bod dros 75,000 o yrrwyr wedi ei dal yn gor-yrru.
Yn ol yr heddlu mae camerau cyflymdra yn arbed bywydau ar y ffordd.Ond
i rai mae nhw’n bla, ac mae nifer sy’n cael tocyn yn barod i ymladd eu
hachos mewn llys barn.Heno y gyrrwyr sy’n herio’r heddlu.
-
Puteindra
23.01.07Yn dilyn llofruddiaethau Ipswich roedd rhai’n galw am gyfreithloni puteindra er mwyn gallu gwneud mwy i amddiffyn merched y stryd.
Ond beth fydde effaith cyfreithloni yng Nghymru?
Heno, mewn cyfweliad di flewyn ar dafod, bydd putain Gymraeg ei hiaith yn agor cil y drws ar ei bywyd hi, ac yn dadlau am yr hawl cyfreithiol i werthu ei chorff.
-
Bwlio 16.01.07
Chwe mis nol fe wnaeth criw o famau yng Ngwynedd dynnu eu plant o’r ysgol gynradd leol am eu bod nhw’n cael eu bwlio.
Yn ol y rhieni doedd yr ysgol yn gwneud dim i ddatrus y broblem.
Heno y diweddara am broblemau bwlio yng Ngwynedd. Ydy ysgolion yn cymryd y pwnc yma o ddifri?
-
Ypdêts 09.01.07
Y diweddara am rai o gymeriadau mwya cofiadwy Y Byd ar Bedwar.
Robert Rees, y gangmaster Cymraeg sy’n cael ei gyhuddo o ecsploetio gweithwyr Pwylaidd.
Ac ymateb Glyn Wise i’r feirniadaeth bod e’ wedi dwyn gwarth ar y genedl ar raglen Big Brother.
-
Ysgol y Gogledd 12.12.06
Mae dwy flynedd a hanner ers cyhoeddi Adroddiad Clywch, yn dilyn honiadau am yr athro a’r dramodydd John Owen.
Ond oes yna wersi wedi’u dysgu?
Heno mae un mam o’r gogledd yn cwyno am y ffordd wnaeth eu hysgol leol hi ymateb, wedi honiadau bod athro wedi ymddwyn yn amhriodol gyda’i mab.
Ymchwiliad i helynt un o ysgolion y gogledd.
-
Gweithwyr
Pwylaidd 05.12.06Ers dwy flynedd mae miloedd o Bwyliaid wedi heidio i Gymru i weithio.
Ond pam bod cymaint yn dod i Gymru? A beth am gwynion bod nhw’n cael eu hecsploetio?
Heno bydd Y Byd ar Bedwar yn teithio i Wlad Pwyl i chwilio am atebion, ac yn herio un o’r ‘gangmasters’ Cymraeg sy’n dod a nhw yma.
-
Protest y Biben Nwy 28.11.06
Mae protestwyr wedi bod yn meddiannu rhan o’r biben nwy enfawr sy'n agor hollt ar draws Cymru.
Mae nhw'n honni y gallai'r cynllun fod yn beryg bywyd.
Fe aeth un o newyddiadurwyr Y Byd ar Bedwar dan ddaear i holi’r ymgyrchwyr. Ar y rhaglen heno y lluniau ecscliwsif o du fewn y biben
-
Cyffuriau
Cansyr 21.11.06Temozolomide yw’r cyffur mwyaf effeithiol i drin tiwmor ar yr ymennydd ers 30 mlynedd.
Ond er bod e’n cael ei roi i gleifion dramor, dyw e’ ddim ar gael i bawb ar y Gwasanaeth Iechyd.
Ydy cleifion yng Nghymru’n cael y driniaeth orau ar gyfer cansr, neu ydyn nhw’n cael eu gyrru i’w bedd?
-
Farepak 14.11.06
Mae Julie Morgan yn un o’r miloedd o famau o Gymru sy’n wynebu Nadolig llwm ar ol i gwmni anrhegion Farepak fynd i’r wal.
Fe fuodd hi’n cynilo trwy’r flwyddyn, ac mae’n teimlo fod ei harian wedi cael ei ddwyn.
Fe ddilynon ni daith Julie wrth iddi fynnu atebion gan benaethiaid y cwmni.
-
Boy Racers 11.07.06Llynedd cafodd pedair merch yn eu harddegau eu lladd wrth i ddau yrrwr ifanc rasio o gwmpas strydoedd dinas Hull.
Cafodd y ddamwain erchyll sylw mawr yn y papurau cenedlaethol.
Yr wythnos yma mae mam un o’r genod, Cymraes o Gaernarfon, yn adrodd ei stori am y tro cyntaf, a’n galw am gosb llymach i yrrwyr ifanc peryg.
-
Achos Dafydd Evans 04.07.06
Fe gafodd Dafydd Evans garchar am achosi marwolaeth beiciwr drwy yrru’n beryglus. Ond mae’r cynhyrchydd teledu’n mynnu bod e’ wedi cael cam.
Yr wythnos yma, mewn cyfweliad ecscliwsif, mae’r Byd ar Bedwar yn gofyn sut mae e’n esbonio’r digwyddiadau.
Pam bod e’ wedi gadael cyn i’r heddlu gyraedd? A pham bod e nawr yn trio mynd a’i achos i’r Llys Apel?
-
Big Brother 27.06.06
Am y tro cynta erioed mae dau ymgeisydd Cymraeg eu hiaith yn nhy Big Brother.
Mae nhw’n byw dan sylw’r camerau bob munud o’r dydd.
Ond mae un seicolegydd fu’n gweithio i Big Brother yn dweud bod y cystadleuwyr yn cael eu ecsploetio.
Heno, cyfweliad gyda thad Imogen, ac ymateb teulu Glyn i'w bywydau yn Nhy'r Brawd Mawr.
-
Ysgolion Cymraeg Caerdydd 20.06.06
Mae nifer o ysgolion Cymraeg Caerdydd yn orlawn, a phlant 4 oed yn methu cael lle yn y dosbarthiadau ar gyfer tymor nesa’.
Mae rhai rhieni'n dweud bod y Cyngor yn poeni dim am y Gymraeg, a’u bod yn gamblo gyda addysg eu plant.
Ffrae sy’n bygwth troi Cymry Cymraeg a di-Gymraeg yn erbyn eu gilydd.
-
Cancr yn Llan Ffestiniog 13.06.06
Ymchwiliad arbennig i lefelau cancr yn ardal Trawsfynydd, yn dilyn pryder rhai pobol leol mai ymbelyrededd o’r atomfa niwcliar sydd wedi eu gwneud nhw’n sal.
Ond oes yna fwy o gancr yn yr ardal?
Yr ateb yr wythnos yma ar Y Byd ar Bedwar.
-
Cartrefi i'r Henoed 06.06.06
Mae May Davies yn 86 oed, ond gyda'r bygythiad i gau yr Annedd yn Llanybydder, ma'n wynebu colli ei chartref.
Pam bod cymaint o gartrefi gofal yn cau yng Nghymru? Yr wythnos yma mae'r Byd ar Bedwar yn ymchwilio i hawliau yr henoed.
-
Tai Cyngor Gwynedd 23.05.06
Ddechrau’r flwyddyn roedd Josephine Owen yn feichiog, a’n byw mewn ty cyngor efo’i merch fach bedair oed.
Roedd hi’n cwyno bod y ty yn oer, gwynt a glaw’n dod drwy’r ffenestri a thyllau’n y lloriau.
Heno, cawn weld dyddiadur fideo o’i phrofiadau.
Ydy cynghorau’n darparu tai addas i famau ifanc?
-
Tai Newydd 16.05.06
Cwmni Watkin Jones yw un o adeiladwyr tai mwya Cymru. Ond ma na gwynion am safon eu gwaith nhw.
Fe nath Valerie Herbert brynu ty newydd gan Watkin Jones yn Hydref 2002, ond ma hi’n honni bod y ty yn llawn gwendidau a bod y cwmni hyd heddiw heb orffen y gwaith yn iawn.
Faint o hawliau sy gan brynwyr tai newydd?
-
Stori Trystan 21.02.06
Mae Trystan Wyn Jones yn dioddef o gyflwr prin, lle mae’n dewis peidio siarad.
Yn 12 oed mae’n treulio’i wythnosau mewn ysgol arbennig yn Derby – dros gan milltir i ffwrdd o’i rieni. Mae ei fam yn dweud na chafodd ddigon o help gan yr awdurdodau yng Nghymru.
Ydy plant ag anghenion arbennig yn cael cam?
-
Hela 14.02.06
Mae blwyddyn ers i’r Llywodraeth wahardd hela llwynogod a chwn.
Yn swyddogol, mae helfeydd Cymru’n dweud bod nhw’n cadw at y gwaharddiad.
Ond heno bydd tystiolaeth Y Byd ar Bedwar yn codi amheuon bod nhw dal wrthi’n hela a chwn.
Camerau’r Byd ar Bedwar ar drywydd yr helwyr.
-
Ffrae'r Melinau Gwynt 07.02.06
Mae cynllun i godi deg melin wynt wedi rhwygo cymuned glos yng Ngheredigion,
a throi cymdogion yn erbyn eu gilydd.Mae’r heddlu wedi cael eu galw, ac un ffarmwr wedi cael ei arestio.
Ond pam bod ffrae’r melinau wedi troi’n gas?
-
Hunan Niweidio 31.01.06
Ma un o bob deg o bobol ifanc yn anafu eu hunain – dyna amcangyfri’r arbenigwyr.
Ond oes na epidemig o niweidio ymysg pobol ifanc?
Bydd y rhaglen heno’n gofyn pam bod rhai pobol yn niweidio’u hunain, ac yn clywed stori drasig un fenyw sydd wedi bod yn torri ei hun a rasel ers pymtheg mlynedd.
-
Stori Steffan Wilde 24.01.06
Pan oedd Steffan Wilde yn dair wythnos oed, fe gafodd niwed difrifol i’w ymennydd ar ol cael ei ysgwyd gan ei dad.
Er i’r tad gael dwy flynedd a hanner o garchar, mae’r fam yn dweud bod hynny ddim hanner digon.
Ydy rhieni sy’n niweidio’u plant yn cael eu cosbi’n ddigon llym?
-
Deddf yr Iaith Gymraeg 17.01.06
Faint mwy o wasanaethau sydd ar gael yn y Gymraeg ers pasio deddf iaith ’93?
Mae’r Byd ar Bedwar wedi bod ar daith i ddeg o swyddfeydd post led led Cymru i weld pa obaith sydd yna i gynnal eich busnes yn Gymraeg.
Bydd rhaglen yr wythnos yma’n datgelu pa rai wnaeth basio prawf y camera cudd.
-
Dwr Cymru a Llyn Cwellyn 10.01.06
Ma Aled ac Iwan ymhlith dros ddau gant yn y gogledd sydd wedi dal y salwch stumog cryptosporidiosis.
Dyw’r dwr tap yno ddim yn saff i yfed, a dros ‘Dolig fe wnaeth y teulu gadw dyddiadur fideo, i ddangos mor anodd oedd hi arnyn nhw.
Ond pam bod miloedd o deuluoedd y gogledd yn gorfod berwi dwr o hyd?
-
Rhaglen Ypdets 13.12.05
Beth yw’r diweddara’ am Ruth Winston Jones fu’n brwydro am hawl ei babi i gael byw?
Beth am y dyn gaeth ei ddal yn ffermio ar ol cael ei wahardd rhag cadw anifeiliaid?
A beth am Wikum, y bachgen bach gollodd y rhan fwyaf o’i deulu yn y tsunami?
Yr wthnos yma, y diweddara’ am rai o straeon cofiadwy Y Byd ar Bedwar.
-
Diogelwch Stadiwm y Mileniwm 06.12.05
Faint o siap sydd ar ddiogelwch Stadiwm y Mileniwm?
Mae un sy’n gweithio yno adeg y gemau mawr wedi cysylltu a ni i son am ei phryder. Mae hi’n dweud bod yna risg gwirioneddol y gallai’r stadiwm ddiodde’ ymosodiad terfysgol.
Heno bydd Y Byd ar Bedwar yn rhoi diogelwch y stadiwm ar brawf.
-
Dawnsio Polyn 29.11.05
Bob wythnos yng nghlwb Yoko’s yn Aberystwyth, mae merched yn dawnsio’n eu dillad isa’ i’r cwsmeriaid. Ond nawr, ers i ddeddfau trwyddedu newid, mae hawl gan Yoko’s i gael merched noeth yn perfformio.
Ond ydy dawnsio polyn yn bleser derbyniol neu’n bornograffi ffiaidd?
Ar y rhaglen yr wythnos yma, lluniau ecscliwsif o’r noson gynta yn Yoko’s.
Trais a Gwasanaeth Erlyn y Goron 13.11.05
Mae dros ddeng mil o fenwod y flwyddyn ym Mhrydain, yn mynd at yr heddlu i honni bod nhw wedi cael eu treisio. Ond mae 95% o’r achosion hynny yn dod i ddim.Yr wthnos hon ar Y Byd ar Bedwar, mae un o’r gwragedd hynny yn siarad yn agored am ei phrofiad hi yn y llysoedd, a’n codi amheuon mawr am Wasanaeth Erlyn y Goron.
9.30PM
POB NOS LUN
S4C