ARCHIF Y BYD AR BEDWAR

  • Hunllef Haiti 01.02.10

    llun

    Pam bod pobl Haiti yn dal i aros am y cymorth angenrheidiol i oroesi'r drychineb waetha' mae'r Cenhedloedd Unedig erioed wedi ei hwynebu?

     

     

    Yr wythnos hon, yn yr adroddiad Cymraeg cynta o Haiti, bydd Y Byd ar Bedwar ynghanol y llanast ar ol y daeargryn difrifol a laddodd dros 150,000 o bobl, a gadael milynau yn ddi-gartref ac yn newynu. 

     

    Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am apêl Haiti ewch i www.dec.org.uk.

  • Anafiadau Rygbi 25.01.10

    Ar drothwy pencampwriaeth y chwe gwlad, nos Lun bydd y Byd ar Bedwar yn siarad gyda un o ser rygbi Cymru, sydd wedi cael ei orfodi i ymddeol oherwydd anafiadau.

     

    Gyda charfan Warren Gatland wedi ei wanhau oherwydd anafiadau, byddwn ni’n siarad ag arbenigwyr meddygol a chyn-chwaraewyr rygbi sy’n poeni fod y gem wedi mynd yn rhy beryglus. Ond beth all gael ei wneud i ddiogelu chwaraewyr ar y lefel uchaf?

  • Eira mân, trafferth mawr? 18.01.10

    llun

    Yn sgil y gaeaf caletaf ers dros chwarter canrif, bydd y Byd ar Bedwar yn gofyn pam fod Cymru wedi dod i stop yn y tywydd oer, ac yn ceisio cael atebion i gwynion ffermwyr, yr henoed a rhieni plant ysgol.

     

    Yr wythnos yma hefyd, ry’n ni’n teithio i Oslo, i weld sut mae pobl Norwy yn parhau a’u bywyd bob dydd,  mewn tymheredd mor isel a -24˚c.

     

     

  • Gyrru ar Gyffuriau 11.01.10

    Lladdwyd Cliff ‘bach’ Jones mewn damwain erchyll yn Sir Fon flwyddyn nôl. Collodd dwy ferch ifanc eu bywydau yn yr un ddamwain.

     

    Rodd gyrrwr y car wedi yfed a chymryd coctêl o gyffuriau, ac mae e nawr wedi ei garcharu.

    Ond yr wythnos hon bydd mam Cliff yn galw am gosb llymach i rai sy’n achosi marwolaeth ar ôl yfed a gyrru, a’n gofyn pam nad oes mwy yn cael ei wneud i ddal gyrrwyr ar gyffuriau.

     

  • Ypdêts 2010 04.01.10

    llun

     

    Cyhuddiadau newydd o hiliaeth yn erbyn un o arweinwyr y BNP yng Nghymru.

     

     

     

     

    Lluniau newydd o anifeiliaid marw ar hyd caeau fferm ym Mhenllyn.

     

     

     

    Ac ymateb cynghorau sir yn Lloegr i’n hymchwiliad ffilmio cudd ni i ffermydd cwn gorllewin Cymru. Y dystiolaeth ddiweddara am rai o straeon cofiadwy Y Byd ar Bedwar.

     

  • Tagio Defaid 14.12.09

    Mae ‘na naw miliwn o ddefaid yng Nghymru a'r diwydiant cig oen werth dros gan miliwn o bunnoedd.

     

    O fis Ionawr, bydd rhaid i ffermydd Cymru dagio bob dafad yn electronig. Mae gweinidogion Ewrop yn dweud bod rhaid newid er mwyn atal afiechydon fel clwy traed a'r gennau rhag lledu. Ond gwastraff arian ac amser yw'r system yn ôl rhai ffermwyr.factory

     

    Wythnos yma, bydd Y Byd ar Bedwar yn siarad gyda un ffermwr sy'n dweud bod dyfodol diwydiant cig oen Cymru o dan fygythiad.

     

  • Cadw Organau 7.12.09

    llunErs sgandal organau ysbytai Alder Hey a Bryste mae'r hawl i dynnu a chadw rhannau o gyrff y meirw wedi bod dan y chwyddwydr. Mae rheolau llym wedi eu cyflwyno i rwystro digwyddiadau tebyg eto.

     

     

    factoryOnd yr wythnos yma ar Y Byd ar Bedwar cawn stori mam o Sir Benfro sy'n brwydro i gael gwybod pam bod ei mab wedi ei gladdu heb ei ymennydd.

     

    Mewn cyfweliad dirdynnol mae'n holi pam bod neb wedi dweud wrth y teulu, pam oedd rhaid aros bron i ddwy flynedd cyn cael claddu'r ymennydd gyda'i gorff, a'n gofyn pwy sydd ar fai am y llanast?

     

  • Alwminiwm Môn 30.11.09

    Mae’n addo Nadolig llwm i Peter Owen a channoedd o’r rhai gollodd eu gwaith pan gaeodd ffatri Alwminiwm Mon fis Medi. Mae’r tad ifanc yn teimlo bod nhw wedi cael eu bradychu gan gwmni oedd yn un o brif gyflogwyr yr ynys ers 40 mlynedd.

     

    factoryYn y rhifyn nesa, bydd Y Byd ar Bedwar yn trio cael atebion gan un o benaethiaid y cwmni, ac yn dilyn ymdrechion Peter i ddod o hyd i swydd arall.

    Pa mor hawdd fydd hi i gael gwaith yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru?

     

  • Twf Tesco 23.11.09

    Gyda chynlluniau i godi Tesco ym Machynlleth, ac i agor pedair cangen arall ym Mhowys, mae’r cwmni’n wynebu cyhuddiadau eu bod nhw’n coloneiddio’r canolbarth.

    Mae’r dadlau wedi rhannu’r stryd fawr. Tra bod rhai’n gobeithio am swyddi newydd a nwyddau rhad, mae eraill yn poeni y bydd siopau bach unigryw yn diflannu.

    Ond ydy Tesco’n dinistrio trefi marchnad Cymru?

     

  • Arweinyddiaeth y Blaid Lafur 16.11.09

    Mewn wythnosau fe fydd Prif Weinidog Cymru Rhodri Morgan wedi ymddeol a gadael ei swydd fel arweinydd y blaid Lafur yng Nghymru.

    Ond pwy fydd yn ei olynu?

    Mewn rhaglen arbennig o'r Senedd bydd Y Byd ar Bedwar yn holi'r tri sydd yn y ras - Huw Lewis, Carwyn Jones ac Edwina Hart.

    Pwy fyddech chi am weld yn y swydd fwyaf pwerus yng Nghymru?

  • Tsunami Samoa 09.11.09

    Ar Fedi'r 29ain fe wnaeth tsunami daro ynysoedd Samoa.

    Mae bron i 200 wedi marw, mae miloedd yn ddi-gartref a mae nhw'n dal i chwilio am gyrff.

    Ar drothwy gem rygbi Cymru yn erbyn Samoa aeth Y Byd ar Bedwar i weld effaith y don ar yr ardal a'i phobl, ac i gwrdd a Chymraes oedd yn dyst i'r drychineb.

     

  • Rambo Penmachno 02.11.09

    Fis Mai lladdwyd aelod o'r Royal Marines o’r gogledd ar ôl ffrwydriad bom ochor ffordd yn Afghanistan. Martin Richards, neu Rambo i’w ffrindiau, ydi'r unig Gymro Cymraeg i golli’i fywyd yno.

    I ddechrau cyfres newydd o’r Byd ar Bedwar bydd llygad-dystion yn siarad am y tro cyntaf am y ffrwydriad, ac fe welwn effaith y golled  ar deulu, cymuned a thîm pêl-droed nôl adre yng Nghonwy.

  • Gwelyau haul 14.07.09

    llun 2Eleni mae dwy ferch ysgol o dde Cymru wedi diodde' llosgiadau difrifol ar ôl gorwedd mewn gwely haul.

    Mae gofid bod pelydrau UV gwelyau haul yn gallu achosi canser y croen, a chanllawiau newydd yn dweud na ddylai unrhyw un dan ddeunaw gael eu defnyddio.

    Yr wythnos hon bydd Y Byd ar Bedwar yn rhoi salonau haul ar brawf, a'n dangos y busnesau sy'n fodlon cynnig eu gwasanaeth i ddwy ferch 14 oed.


  • Damweiniau ceir heddlu 07.07.09

    Dros y pum mlynedd diwethaf mae dros 150 o bobl wedi eu lladd mewn damweiniau â cheir heddlu.

    Yr wthnos hon, mae un dyn ifanc yn codi cwestiynau am rôl yr heddlu mewn damwain a laddodd ei dad.

    Wrth i deuluoedd aros am fisoedd lawer i’r heddlu ymchwilio, mae  rhai’n cwyno bod nhw’n cael eu cadw yn y tywyllwch am beth ddigwyddodd.

  • Crafu byw yn Calais 30.06.09

    llun 2Mae cannoedd o ffoaduriaid yn cronni yn Calais mewn ymdrech i gyrraedd gwlad yr addewid – Prydain Fawr. Pobol sydd am ein godro ni’n ariannol ydyn nhw yn ôl y penawdau papur newydd.

    Mae’r Byd ar Bedwar wedi cwrdd a’r bobol tu ôl y penawdau sy’n crafu byw yn ardal y ‘jwngl’.

    Ac yn nhywyllwch porthladd Calais, ry ni’n taflu goleuni ar rôl y maffia sy’n smyglo pobol ar draws y sianel.


  • Cartrefi i'r henoed 23.06.09

    Wrth i bobol fyw’n hŷn mae’r galw am gartrefi i’r henoed yn cynyddu. Ond ydi’r trigolion ynddyn nhw yn cael eu parchu a’u trin yn deg? 

    Ar ôl derbyn cwynion mi fuo’r Byd ar Bedwar yn ffilmio’n gudd mewn un cartra yn y gogledd.

    Yn y rhifyn hwn - lluniau syfrdanol sy’n codi cwestiynau am safon y gofal i’r henoed.

  • Carchar yn Ghana 16.06.09

    llun 2Yn dilyn un o’r achosion cyffuriau mwya’ erioed yng ngorllewin Affrica, mae dyn o Sir Gaerfyrddin wedi ei ddedfrydu i ugain mlynedd o lafur caled mewn carchar yn Ghana.

    Er bod dim croeso i newyddiadurwyr yng ngharchardai’r wlad, fe lwyddodd Y Byd ar Bedwar fynd yno i’w holi. Mae Alan Hodgson yn mynnu bod e’n ddieuog o gynllwynio i smyglo cyffuriau. Ond faint o obaith sydd i’w frwydr am ryddid?


  • BNP Cymru - enill tir? 09.06.09

    Yn wyneb yr argyfwng economaidd a sgandal treuliau’r Aelodau Seneddol, mae’r BNP yn haeru bod nhw’n ennill tir. Ond ydy’r blaid ar dwf yma yng Nghymru?

    Mae’r Byd ar Bedwar wedi bod yn cadw golwg ar BNP Cymru ers dechrau’r flwyddyn. Ydy’r blaid wedi moderneiddio neu ydy hi’n dal yn hiliol?

    Heno byddwn ni’n cwestiynu’r Cymry sy’n cefnogi.

  • Y Cymry yn Affghanistan 02.06.09

    Mae dau filwr o’r Gwarchodlu Cymreig wedi eu lladd yn Afghanistan yn y deufis diwetha’. Mae 162 o filwyr Prydeinig wedi cael eu lladd erbyn hyn.

    Ond ydy’r pris yn ormod yn y rhyfel yn erbyn terfysgaeth?

    Mae’r Byd ar Bedwar wedi treulio pythefnos ar faes y gad gyda’r Gwarchodlu Cymreig.

    Beth sydd gan y bechgyn i ddweud am y brwydro?

  • Llanast yn Gaza 24.02.09

    Dros 1300 wedi eu lladd.

    Dros 5000 wedi eu hanafu.

    Ac 20,000 o adeiladau wedi eu chwalu.

    A'r cyfan mewn 22 diwrnod wrth i fyddin Israel ymosod ar y Palesteiniaid o'r awyr, y mor a'r tir.

    Wythnos yma y Byd ar Bedwar yn ffilmio'r llanast yn Gaza.

  • Stori syfrdanol Shauna 17.02.09

    Roedd Shauna’n 6 mis oed pan gaeth hi ei hanafu’n ddifrifol gan gariad ei mam. Yn 7 oed buodd hi farw.

    Nawr, yn yr achos cynta’ o’i fath yng ngogledd Cymru, mae Owain Huw Owen wedi ei garcharu am eilwaith am yr un ymosodiad.

    Mewn cyfweliad arbennig i’r Byd ar Bedwar, mae’r rhieni wnaeth fabwysiadu Shauna yn dweud bod angen i droseddwyr o’r fath gael eu cosbi’n llymach.

  • Addysg Gymraeg yn Sir Gâr 10.02.09

    Mae cynllun i uno ysgolion uwchradd mewn peryg o greu rhwyg rhwng rhieni yn Sir Gaerfyrddin.

    Yng Nghwm Gwendraeth mae un rhiant yn dweud bod rhaid brwydro i’r carn i achub addysg Gymraeg, tra bod eraill yn cyhuddo’r sir o wthio’r Gymraeg lawr yddfau’r plant.

    Addysg Gymraeg yn y fantol eto yn Sir Gâr.

  • Woolworths 27.01.09

    Eleni, dylai un o siopau enwocaf y stryd fawr fod yn dathlu ei chanmlwyddiant. Ond mae siopau Woolworths nawr yn wag wedi i’r cwmni gau’r drysau am y tro olaf ddechrau’r mis.

    Mae’r Byd ar Bedwar wedi dilyn cyn-aelodau o’r staff, i weld pa obaith sydd yna i gael gwaith. A heno ry ni’n gofyn pwy oedd ar fai am lanast Woolworths?

  • Parciau Cenedlaethol 20.01.09

    Mae John Phillips a’i deulu yn byw mewn carafan ers dros 30 mlynedd. Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi gwrthod gadael i’r ffermwr godi tŷ ar ei dir, ac wedi gorchymyn bod rhaid symud y garafan hefyd.  

    Nod y Parciau Cenedlaethol yw diogelu harddwch cefn gwlad. Ond ydyn nhw’n rhwystro pobol i fyw a gweithio yn eu cymunedau?

  • Brwydro i gael byw 13.01.09

    Mae gan Emyr Price gancr yr aren. Mae e angen y cyffur Sutent i ymestyn ei fywyd. Ond mae’n ddrud, ac mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwrthod ariannu’r driniaeth.

    Pam bod cleifion sy’n brwydro am eu bywydau yn gorfod ymladd am y driniaeth orau hefyd?

  • Ffermydd cŵn rhan 2 16.12.08

    Yr ail o ddwy raglen arbennig yn ymchwilio i ochr dywyll ffermio cŵn yng Nghymru.

    Mae cannoedd o fridwyr trwyddedig yn gwneud busnes proffidiol o fagu cŵn.

    Heno mae tystiolaeth camera cudd Y Byd ar Bedwar yn datgelu’r amodau dychrynllyd sy’n wynebu rhai cŵn mewn cytiau brwnt yng nghefn gwlad Cymru.

  • Ffermydd cŵn 09.12.08

    Y cynta o ddwy raglen arbennig yn ymchwilio i ochr dywyll ffermio cŵn yng Nghymru.

    Mae cannoedd o fridwyr trwyddedig yn gwneud busnes proffidiol o fagu cŵn.

    Heno mae’r Byd ar Bedwar yn trio cael atebion gan un bridiwr cŵn pedigri sy’n cael ei gyhuddo o gamarwain ei gwsmeriaid.

  • Wardeniaid traffig 25.11.08

    Mae wardeniaid traffig yn bla ar strydoedd Cymru, yn ôl rhai gyrwyr.

    Ers i lawer o gynghorau lleol gymryd y cyfrifoldeb oddi ar yr heddlu mae’r nifer sy’n cael tocyn parcio wedi cynyddu’n sylweddol. Nawr mae rhai’n honni bod siroedd Cymru’n defnyddio’r wardeniaid i godi arian.

    Heno, cawn flas ar fywyd warden sy’n trio cadw trefn ar y stryd.

  • Hir pob aros 18.11.08

    Ma Liberty yn 14 oed ac wedi bod yn disgwyl am galon newydd. Mae wedi cadw dyddiadur fideo o’i bywyd ar y rhestr aros.

    Mae bron i wyth mil o bobl ym Mhrydain angen trawsblaniad. Ond oherwydd prinder organau mae tri’n marw bob dydd tra’n disgwyl.

    Sut mae cwtogi’r aros am organau?



  • Cymraeg - oes angen Deddf newydd? 11.11.08

    Mae disgwyl i Lywodraeth Y Cynulliad gyhoeddi mesur iaith newydd. Mae ymgyrchwyr yn galw arnynt i orfodi cwmnïau preifat i ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg.

    Ond mae ystadegau syfrdanol Y Byd Ar Bedwar yn dangos mai prin iawn yw’r Cymry Cymraeg sy’n defnyddio’r gwasanaethau sydd ar gael yn barod.

    A oes gwir angen am Ddeddf Iaith newydd?

  • Zimbabwe 04.11.08

    Does dim croeso i newyddiadurwyr yn Zimbabwe. Ond mae’r Byd ar Bedwar wedi bod yno, heb yn wybod i’r awdurdodau, i gasglu tystiolaeth o’r gorthrwm a’r caledi dan arweinyddiaeth Robert Mugabe.

    Drwy ffilmio’n gyfrinachol ry ni’n cwrdd â’r dynion ifanc gafodd eu curo, y teuluoedd sy’n llwgu, y Gymraes sy’n trio goroesi’n Harare ac arweinydd yr wrthblaid Morgan Tsvangirai.

  • Y llofrudd tawel 28.10.08

    Mae Sonia yn 10 oed a’n diodde’ o diabetes. Fel arfer mae’r clefyd siwgr sydd arni hi yn taro pobol canol oed.

    Ond mae gofid bod mwy a mwy o blant nawr yn diodde’  oherwydd eu deiet a’u ffordd o fyw. Erbyn hyn ma 138,000 o bobol yng Nghymru’n diodde’ o diabetes, clefyd sy’n gallu lladd. 

    Am ragor o wybodaeth am diabetes, clicwch fan hyn: www.diabetes.org.uk

  • Dyled 29.07.08

    Mae dros 13 miliwn o bobol ym Mhrydain mewn dyled, ac wrth i’r ‘credit crunch’ frathu mae nifer yn troi at gwmnïau arbenigol i ddarganfod ffordd allan o dwll ariannol.


    Heno mae’r Byd ar Bedwar yn ymchwilio i gwynion bod cwmni Debt Matters yn cymryd mantais o deuluoedd anffodus, a bod dyledion rhai’n gallu mynd o ddrwg i waeth.

  • Hawliau dynol Tseina 15.07.08

    Ar drothwy Gemau Olympaidd Beijing mae’r Byd ar Bedwar yn Tsieina yn ymchwilio i bryderon am hawliau dynol yn Chongqing.

    Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi arwyddo cytundeb o gydweithrediad arbennig â’r ardal yma, er mwyn datblygu cysylltiadau busnes. Ond a ddylai Cymru fod yn bwrw mlaen a’r gefeillio pan mae yna gwestiynau am safonau hawliau dynol?

    Oes yna bris dynol i dalu am yr elw economaidd?

  • UFOs 08.07.08

    Faint o sail sydd i honiadau diweddar bod UFOs wedi ymweld â Chymru?

    Heno byddwn ni’n holi’r tystion sy’n dweud bod nhw wedi gweld pethau rhyfedd yn yr awyr dros y deufis diwetha, ac un dyn sy’n haeru bod e wedi cael ei gipio gan rywun o’r gofod.

    Tystion dibynadwy neu ddychymyg byw?

  • Iobs? 01.07.08

    Ma tags, cardiau melyn ac ASBOS i fod i ddatrys problemau cymdeithasol ar y stryd. Ond ydyn nhw’n gweithio?

    Mae Barry Bishop wedi cael 14 o gardiau melyn, a nawr wedi cael cyrffiw a tag. 

    Heno stori’r troseddwyr ifanc sy’n codi dau fys ar gyfraith a threfn.

  • AWOL 24.06.08

    Mae Craig Roberts yn AWOL o’r fyddin am y trydydd tro ar ôl cael ei fomio yn Irac. Mae’r Cafalri Cymreig wedi rhoi gorchymyn iddo ddychwelyd i’r gwersyll yn yr Almaen i gael ei ddisgyblu.

    Ond heno mae’r milwr ifanc yn cyhuddo’r fyddin o’i fwlio a phoeni dim amdano, ers iddo gael ei anafu ar faes y gad.

  • Paedoffiliaid 17.06.08

    Sut mae delio â paedoffiliaid?

    Y cwestiwn mawr sydd 'nôl yn y penawdau ar ôl i ddyn gael ei lofruddio yn Nhrimsaran. Roedd e' wedi ei gyhuddo o fod â lluniau anweddus o blant ar ei gyfrifiadur.

    Heno ar Y Byd ar Bedwar, golwg unigryw ar fywyd dyn arall dan warchae mewn pentre' Cymraeg, ar ôl pledio'n euog i gael lluniau anweddus o ferched bach yn ei feddiant.

  • Lorïau tramor 10.06.08

    Mae cwmnïau lori tramor yn peryglu bywydau ar ein ffyrdd, yn ôl un gyrrwr o Gymru. Nawr mae Yogi Jones wedi penderfynu chwythu’r chwiban ar ei gyflogwyr Gwyddelig, Breen International Transport. Mae’n honni bod y cwmni’n ei orfodi i dorri’r gyfraith drwy yrru am oriau maith.

    Treuliodd Y Byd ar Bedwar wythnos yn y cab gyda Yogi yn casglu tystiolaeth, a heno mae’r rhaglen yn teithio i Iwerddon i herio’r cwmni.

  • Bwlio yn y gweithle 26.02.08

    Fe gaeth swyddfa Comisiynydd Plant Cymru ei sefydlu i frwydro dros hawliau plant. Ond mewn cyfweliad syfrdanol i’r Byd ar Bedwar, mae un cyn-swyddog yn dweud bod y corff wedi methu amddiffyn ei staff ei hun rhag annhegwch.

    Mae Mair Jones yn honni bod hi wedi cael ei bwlio gan reolwyr yn ei gwaith, a bod y cyn-Gomisynydd Peter Clarke, wedi gadael hi lawr.

  • Cynllunio Ceredigion 19.02.08

    Mae Gary Jones eisiau codi tŷ i’w wraig a phedwar o blant yn ei bentre genedigol. Er i bwyllgor cynllunio Ceredigion roi’r hawl iddo adeiladu ar gyrion Ffostrasol, mae’r Cynulliad wedi camu mewn i ddod â’r freuddwyd i ben.

    Heno mae e’n cyhuddo swyddogion y Cynulliad o fethu deall anghenion cefn gwlad.

  • Triniaeth esgeulus 12.02.08

    Mae Vanessa Bright Williams yn dweud bod Ysbyty Gwynedd ar fai am farwolaeth ei merch fach Ayesha. Mae’n mynd i drio hawlio iawndal gan y Gwasanaeth Iechyd am beth mae hi’n ystyried yn driniaeth esgeulus.

    Llynedd fe wnaeth y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru dalu dros £20 miliwn mewn iawndal a chostau i gleifion.

    Ond pa mor hawdd ydi hi i deuluoedd i gael cyfiawnder?

  • 'Y Byd' 05.02.08

    Mae gan Ned Thomas freuddwyd i sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg. Mae cefnogwyr y fenter wedi cyfrannu £350,000 o’u pocedi eu hunain, ond mae yna ofid na fydd Y Byd fyth yn cael ei argraffu.

    Oes yna alw am bapur o’r fath? Ydy’r cynllun busnes yn  rhy optimistaidd? Ac a ddylai Llywodraeth y Cynulliad ariannu’r fenter? Beth yw dyfodol Y Byd?

  • Dim croeso 29.01.08

    Dair wythnos ‘nôl fe gaeth troseddwr ugain oed o Sir Fôn ei alltudio i’r Philippines. Er bod e’ wedi cael ei fagu yng Nghymru ers yn bedair oed, fe gaeth ei hel o’r wlad pan ddaeth hi i’r amlwg bod ganddo ddim dinasyddiaeth Brydeinig.

    Heno, mewn adroddiad arbennig o Manila, cawn wybod beth sy’n wynebu John Garcia.

  • Methadôn 22.01.08

    Mae naw o bobol ifanc wedi cael eu lladd gan y cyffur methadôn yn y gogledd mewn blwyddyn. Mae methadôn yn cael ei roi ar brescripsiwn i rai sy’n trio rhoi’r gorau i heroin.

    Ond heno mewn ymchwiliad i’r farchnad ddu mewn methadôn, mae’r Byd ar Bedwar yn darganfod pa mor hawdd yw prynu’r cyffur peryglus ar y stryd.

     

  • Ymosodiadau treisgar 15.01.08

    Fe gafodd Paul Pugh ei guro’n anymwybodol mewn ymosodiad ar y stryd.

     

     

    llunNawr mae’r cyn-gapten pêl droed yn gorfod dysgu cerdded a siarad unwaith eto.

    Yn ei gyfweliad cynta ers yr ymosodiad mae Paul yn gofyn a oes digon yn cael ei wneud i atal ymosodiadau ar bobl ddiniwed?

  • Ypdêts 2008 08.01.08

    Faint o bobol y cymoedd sy’n dal yn ddi-waith ar ôl cau ffatri Burberry?

     

     

     

     

    Sut wnaeth miloedd o yrwyr y gogledd lwyddo i gael eu harian ‘nôl ar ôl cael dirwy am oryrru?

     

     

     

    A sut Nadolig gaeth y ddau oedd yn gaeth i gyffuriau ar strydoedd Caerdydd?

     

     

     

    Y diweddara’ am rai o straeon cofiadwy Y Byd ar Bedwar.

     

Er mwyn gweld yr hen archif cliciwch yma


Y BYD AR BEDWAR
9.30PM
POB NOS LUN
S4C