TIM Y BYD AR BEDWAR

  • Geraint Evans - Golygydd

    Geraint yw Golygydd Y Byd ar Bedwar ers 2002. Mae wedi bod yn gohebu i’r rhaglen ers 1994. Fel Golygydd Rhaglenni Cymraeg ITV Cymru mae’n arwain y tîm sydd hefyd yn cynhyrchu Hacio, Cofio, Cefn Gwlad a gwefan Y Dydd.

  • Eifion Glyn - Gohebydd

    Fe wnaeth Eifion ddechrau fel gohebydd yn y Gogledd gyda'r Byd ar Bedwar yn 1986. Ers rhai blynyddoedd bellach fodd bynnag, mae'n gweithio o’r swyddfa yng Nghaerdydd ac yn gohebu drwy Gymru a thu hwnt. Yn y cyfnod diweddar bu'n ffilmio yn rhai o wledydd mwyaf tymhestlog y byd gan cynnwys Zimbabwe ac Afghanistan. Mae'n dweud fod dwy o'r rhaglenni y bu'n gweithio arnyn nhw eleni gyda'r rhai mwyaf anodd yn emosiynol iddo erioed ymwneud a nhw - adroddiad am drychineb daeargryn Haiti a stori Elliw Llwyd Owen oedd yn ddifrifol wael tra ar y rhestr aros am organau.

  • Sian Morgan - Gohebydd

    Mae Sian yn un o ohebwyr y Byd ar Bedwar ers 2006. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae wedi ffilmio’n gudd ar sawl rhaglen, gan gynnwys gweithio fel ‘hostess’ yng nghlybiau nos Tokyo wrth ymchwilio i beryglon y diwydiant. Fe wnaeth hefyd ddwy raglen arbennig a ddatgelodd dor-cyfraith ymysg bridwyr cwn Cymru. Ymysg ei rhaglenni diweddaraf i gorddi’r dyfroedd, camodd y newyddiadurwraig o Rydaman i’r ddadl danllyd yng ngorllewin Cymru ar gynllun difa moch daear y llywodraeth.

  • Linda Parry - Newyddiadurwraig

    Bron i dair blynedd yn ôl gadawodd Linda y Byd ar Bedwar. Aeth i weithio ar raglenni Saesneg i gwmni darlledu arall.  Ym mis Ebrill eleni ail ymunodd a’r Byd Ar Bedwar. Mae wedi gweithio yn y byd darlledu ers 8 mlynedd ar raglenni teledu a radio.  Ei swydd gyntaf yn y maes oedd gyda phapur newydd yng Nghaernarfon.

  • Gwyn Loader - Gohebydd

    Yn aelod o dim Y Byd ar Bedwar ers 2008, mae Gwyn erbyn hyn yn ohebydd. Mae wedi gweithio ar sawl prosiect yn y cyfnod hwnnw, gan gynnwys ymchwilio i honiadau o hiliaeth yn erbyn arweinwyr y BNP yng Nghymru a herio’r awdurdodau rygbi am y twf mewn anafiadau difrifol i chwaraewyr proffesiynol. Mewn adroddiad diweddar, teithiodd i Dde Affrica i weld a fyddai cynnal Cwpan y Byd pel-droed yno yn elwa tlodion y townships.

  • Lewis Jones - Newyddiadurwr

    Fe ymunodd Lewis a thim Y Byd ar Bedwar yn 2009 ar ol gweithio ar y rhaglen Hacio. Ers hynny mae wedi bod yn rhan o sawl prosiect, gan gynnwys gweithio fel dyn camera ar raglen yn edrych ar effaith Tsunami ar ynysoedd Samoa ym mis Medi 2009. Yn ddiweddar fe wnaeth hefyd ffilmio rhaglen yn edrych ar gynnal Cwpan y Byd pel-droed yn Ne Affrica ac a fyddai tlodion y wlad yn elwa o’r gystadleuaeth.

  • Ian Edwards - Gohebydd

    Ddaru Ian Edwards ymuno a ITV Cymru yn 2003 ac mae wedi bod yn aelod o dim y Byd ar Bedwar ers 2005. Mae o wedi gweithio fel newyddiadurwr gyda phapurau newydd Trinity Mirror a gyda'r BBC. Bellach mae o yn gweithio fel gohebydd yn swyddfa'r gogledd yn Nghaernarfon.


Y BYD AR BEDWAR
9.30PM
MONDAYS
S4C with English subtitles