English?

Byd o Liw...

Osi Rhys Osmond

Yn y gyfres newydd o Byd o Liw, bydd 12 artist cyfoes yn creu darluniau newydd o gestyll Cymru trwy lygaid yr unfed ganrif ar hugain. Ymlith y cestyll dan sylw mae cestyll Cymreig Dolbadarn a Dinas Brân, a chestyll Normanaidd Rhaglan, Caernarfon a Harlech.

Ym mhob rhaglen, cawn weld darluniau adnabyddus o'r lleoliadau, ac yna bydd dau artist yn creu eu dehongliad nhw o'r castell a'r tirlun o'r newydd.

Osi Rhys Osmond...

Osi Rhys Osmond

Osi Rhys Osmond, yr artist o Lansteffan, Sir Gaerfyrddin, sy’n arwain y daith fentrus artistig i fyd y cestyll. Osi fydd yn ein tywys trwy hanes y lluniau gwreiddiol hefyd.

Ymhlith yr arlunwyr sy'n cyfrannu at y gyfres mae enwau cyfarwydd Aneurin Jones ac Ogwyn Davies, a dawn newydd megis Elin Huws a Luned Rhys Parry.