Ganed Aneurin M. Jones yn fab i ffermwr yng nghymdogaeth wledig Cwm Wysg, ar y ffin rhwng yr hen siroedd Brycheiniog a Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei addysg uwchradd yng Ngholeg Celf Abertawe rhwng 1950-1955. Yno bu'n astudio Celf Gain, ac ar ôl graddio treuliodd ddwy flynedd gyda Celtic Studios yn cynllunio ffenestri gwydr am-liw ar gyfer eglwysi ym Mhrydain, Canada a'r Unol Daleithau. Ef oedd pennaeth yr Adran Gelf yn Ysgol y Preseli, Crymych, o'i agoriad ym mis Medi 1958 tan fis Gorffennaf 1986.
Y mae'r arlunydd yn arddangos ei waith yn gyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth cipiodd y brif wobr yn y gystadleuaeth agored i arlunwyr oedd yn byw yng Nghymru. Cynhaliwyd nifer o arddangosfeydd o'i waith, ar ei ben ei hun neu yn rhannol gydag arlunwyr eraill, mewn gwahanol rannau o'r wlad. Mae wedi arddangos mewn orielau yng Nghymru, Llundain ac America, ac mae ei waith i'w wled mewn casgliadau preifat a chyhoeddus hefyd yn yr Iseldiroedd, Sweden, yr Almaen, Hong Kong, De Affrica, Awstralia a Seland Newydd. Mae Aneurin yn cydnabod fod crynswth ei waith yn tarddu o'r blynyddoedd ffurfiannol a dreuliodd ym mro chwedlonol ei eni.
Dywedodd Aneurin: "Er i mi symud i ffwrdd i fynd i'r coleg ac yn y blaen , y mae rhan ohonof nad adawodd fy mro enedigol o gwbl. Y tirwedd hwnnw a'i bobl a'm creodd i bob pwrpas, eu straeon a daniodd fy nychymyg cynnar a gwarineb eu cymdeithas a ffurfiodd fy neall. Mae osgo a siap y cymeriadau gwledig yn rhyfeddod parhaus imi, a dathlu'r cyffro creadigol hwnnw yw sbardun fy mhaentiadau. Er bod dylanwad clasurol y Dadeni Dysg ar yr addysg a dderbyniais yng Ngholeg Celf Abertawe, traddodiad hŷn a mwy lledrithiol yw'r un sy'n aflonyddu arnaf pan fo creadigrwydd yn taro. Traddodiad y cyfarwydd yw hwnnw, traddodiad y dweud stori a chadw'r cof. "


