English?

Anthony Evans

Mae Anthony Evans yn mynegi ei grefft trwy ddefnyddio deunyddiau bob dydd cyfarwydd i greu iaith weledol sy'n cynnwys symbolau, arwyddion a lliw. Dyma'i ffordd e o wneud synnwyr o'r byd sydd o'n cwmpas. Mae'n dweud mai "… teimladau, emosiwn, breuddwydion a thirwedd Cymru - dyma’r elfennau pwysicaf sy’n sail i 'ngweledigaeth fel arlunydd."

Ganwyd Anthony yn 1948, ac mae e wedi treulio rhan helaeth o'i fywyd ym myd addysg. Wedi graddio mewn Addysg, bu'n athro celf ac yna'n ddarlithydd, ac mae e bellach yn ddarlithydd gwadd ac yn ddylunyd arobryn. Mae e'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd, ond mae ei waith wedi teithio'n bell, gan gynnwys yr Eidal, yr Almaen, yr UDA ac India.

Bu gwaith Anthony yn rhan o dros 40 o arddangosfeydd grŵp yn ogystal â'r arddagosfeydd tramor ac unigol. Mae cywreinrwydd ei waith yn denu'r llygad, ac mae'n edrych yn syml ar yr olwg gyntaf. Wrth edrych yn nes, daw'r manylder i'r amlwg, ac mae'r cyfrwng yn trosglwyddo'r neges. Mae'n waith agos-atoch mae rhywun yn cynhesu ato, efallai am fod y profiad torfol yn cael ei bersonoleiddio mor effeithiol.

Fel y dywed yr artist: "Rhan bwysig o’r broses greadigol i mi yw ail gerdded llwybrau cudd fy mywyd a thrwy hynny, dweud stori. Trwy ddefnyddio atgofion a myfyrio dros ddigwyddiadau o’r gorffennol, mae hi’n bosibl i sefydlu hunaniaeth fel arlunydd, gan greu o’r hunan a chofnodi hanesyn unigolyn."

Anthony Evans Anthony Evans Anthony Evans Anthony Evans