Ganed Darren Hughes ym Mangor yn 1970, ac mae e'n un o sêr newydd disgleiriaf byd celf yng Nghymru. Astudiodd yng Ngholeg Technegol Gwynedd o 1989-90, ac yna yn Ysgol Celf a Dylunio Falmouth o 1990-93. Yn 1994 gwnaeth ôl-radd un flwyddyn yn Ysgol Gelf Ynys Cyprus yn Paphos.
Mae Darren yn byw ym Methesda, lle mae'r tirlun yn newid yn barhaus; lle tynnir cerrig o'u muriau a lle mae'r golau'n esblygu. Mae Darren yn cyfleu hyn oll ag onestrwydd trawiadol.
Mae Darren wedi cynnal arddagosfeydd unigol yng Nghymru, ac mae gwaith ganddo yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r Academi Frenhinol Gymreig yng Nghonwy. Yn 2001, fe'i detholwyd yn Artist Ifanc Cymreig y Flwyddyn yn yr Academi Frenhinol Gymreig. Roedd y dwieddar Syr Kyffin Williams, yr arch-ddarlunydd tirluniau, yn edmygu gwaith Darren yn fawr, ac yn wir, gwahoddodd e Darren i rannu ei arddangosfa olaf yn Llundain gydag ef. Bu'n llwyddiant ysgubol i'r ddau artist fel ei gilydd. Dywedodd Syr Kyffin fod Darren "… yn caru'r tirlun o gwmpas ei gartref ym Methesda; mae'n caru'r tai, y mynyddoedd, y gatiau, y welydd carreg a'r perthi llechi. O ganlyniad, mae'n medru cyfathrebu'r cariad hwnnw i bobl eraill."
Mae Darren yn esbonio'i weledigaeth trwy ddweud: "Dwi'n ceisio adlewyrchu a chwmpasu ymdeimlad o leoliad ac archwilio strwythr, natur barhaol a geometreg y tirlun sy'n amgylchynu fy nghartref a fy stiwdio ym Methesda." Yn Byd o Liw, dewisodd Darren leoliad ym Mrynsiencyn, Ynys Môn, i wneud ei fraslun o gastell Caernarfon – yr un lleoliad, fel mae'n digwydd, â John Brett flynyddoedd maith yn ôl. Efallai y bydd seren o artist ifanc yn dod i'r un man yn 2135 i chwilio am ysbrydoliaeth.


