English?

Dewi Tudur

Ganed Dewi Tudur yn Yr Wyddgrug yn 1957, ac astudiodd yn Ngholeg Celf Caerfyrddin o 1976-80. Mae'n byw yn Llanrwst bellach, ac mae e'n cyfuno gyrfa mewn dysgu celf gyda bywyd artist sy'n arddangos ei waith dramatig, cyforiog o liw, sy'n herio'r llygad.

Oherwydd ei ymrwymiadau i'w swydd ddysgu, cymharol fychan yw ei gynnyrch. Fodd bynnag, mae e wedi arddangos ei waith yng Nghymru a thu hwnt mewn arddangosfeydd grŵp ac yn ffeiri celf yn Llundain, ac mae ganddo ddilyniad o gasglwyr ffyddlon sy'n awchus am weld ei luniau.

Dewi Tudur Dewi Tudur Dewi Tudur Dewi Tudur