English?

Côt newydd o baent i gestyll Cymru - Dinas Brân

Castell Dinas Brân Castell Dinas Brân Castell Dinas Brân

Y castell dan sylw yn rhaglen olaf y gyfres ydy Castell Dinas Brân ger Llangollen. Richard Wilson, a anwyd ym Mhenegoes, Sir Drefaldwyn yn 1713, oedd tad y traddodiad tirlunol Prydeinig. Peintiodd ei lun o Ddinas Bran yn 1770 gan ddefnyddio arddull draddodiadol gydag adfeilion y castell yn ganolbwynt dramatig i'r llun. Adeiladwyd Dinas Brân gan y tywysog Gruffudd ap Madog yn 1270, a llosgwyd ef ganddo yn 1277 i arbed i frenin Lloegr, Edward I, ei goncro. Yr artistiaid cyfoes sy'n dehongli'r llun o'r newydd ydy Eleri Mills a Dewi Tudur.

Mae'r elfen wleidyddol hon wedi dylanwadu ar ddehongliad y ddau artist o'r darlun. Mae Eleri Mills yn artist sy’n credu’n gryf yn agwedd genhadol ei gwaith, y dylai artistiaid o Gymru fod yn cario enw da Cymru gyda nhw lle bynnag mae eu gwaith yn cael ei arddangos. Ganed Eleri yn Sir Drefaldwyn, fel Richard Wilson, ac mae hi'n teimlo agosatrwydd mawr tuag ato a’i waith. Mae Eleri'n credu fod Wilson, fel Cymro, yn teimlo emosiwn arbennig tuag at ei waith, sy'n cael ei gyfleu yn ei luniau. Tra'n creu ei llun ar gyfer y rhaglen hon, dywedodd Eleri bron na allai hi deimlo Wilson wrth ei hysgwydd pan oedd hi'n gweithio.

Gwelodd Osi, cyflwynydd y gyfres, gysgod o hanes Cymru yn llun Dewi Tudur. Aeth Dewi ati i wneud ei frasluniau ar ffurf sinematig gan ddefnyddio cyfres o luniau bach mewn lliwiau dwys a chyfoethog. Yn ôl Dewi, y sialens fawr oedd "cyfuno cysur y dyffryn a ias y castell." Mae gwaith gorffenedig Dewi yn llun dyfrliw cryf mewn dull sydd bron yn Siapaneaidd a chaligraffig. Gwelodd Osi'r llun fel "... cipolwg o’r tirwedd trwy fwlch ym mur y castell fel tase’r arlunydd ei hun yn amddiffyn Cymru."

Gyda'r artistiaid...
Eleri Mills
Dewi Tudur