Mae'r gyfres yn dechrau yng Nghastell Dinefwr, ger Llandeilo yn Nyffryn Tywi. Bu'r castell yn ganolbwynt grym i dywysogion Cymreig ers dyddiau Hywel Dda yn y 10fed ganrif, a bu'n gadarnle i un o dywysogion mwyaf hanes Cymru, yr Arglwydd Rhys, yn y 12fed ganrif. Artist di-enw a greodd y darlun gwreiddiol, a'r ddau artist sy’n dehongli’r castell hwn yw Anthony Evans ac Iwan Bala, dau artist adnabyddus a gwahanol i'w gilydd o ran arddull.
Mae Anthony Evans yn artist sy’n mynegi teimladau, emosiynau a breuddwydion wrth ddehongli tirwedd Cymru, tra bo Iwan Bala yn adnabyddus fel artist sy’n creu lluniau cyfrwng cymysg, yn aml er mwyn cyfleu neges bendant am leiafrifoedd y byd. Mae eu hymateb i’r her hon, fel y gellir disgwyl, yn un tra lliwgar.
Gyda'r artistiaid...
Iwan Bala
Anthony Evans

