English?

Golwg newydd ar Castell Dolbadarn gyda S4C

Castell Dolbadarn Castell Dolbadarn Castell Dolbadarn

Yn yr ail rhaglen, darlun y tirlunyd byd enwog JMW Turner o Gastell Dolbadarn sy'n cael ei ail-ddehongli, a hynny gan Ogwyn Davies a Lotte Hughes. Mae'n debyg y cafodd Turner, a oedd yn ymwelydd cyson â Chymru, ei ddenu i Gastell Dolbadarn yn 1799 gan stori drasig Owain Goch, a garcharwyd yn y castell gan ei frawd, Llywelyn Ein Llyw Olaf. Paentiodd ddarlun o Gastell Dolbadarn sydd yn rhamantaidd ond eto yn ddramatig. Mae Owain Goch yn ymddangos yn y darlun, ym mherfeddion tywyll y castell, a adeiladwyd gan Llywelyn Fawr yn 1230.

Mae’r artist profiadol Ogwyn Davies yn edmygydd o ddehongliad Turner o Gastell Dolbadarn, ond mae e wedi mynd ar drywydd stori Owain i greu ei ail ddehongliad ef yn hytrach na chanolbwyntio ar ddarlun Turner. Yn ei dehongliad hi, mae’r arlunydd ifanc Lotte Hughes yn hepgor holl fanylder darlun Turner ac yn creu cyfres o baneli sy'n cynnwys lliwiau o’r darlun i gyfleu ei hymateb esthetig hi i ŵer brawychus y ddarlun.

Gyda'r artistiaid ...
Ogwyn Davies
Lotte Hughes