English?

Eleri Mills

Mae Eleri'n byw ac yn gweithio yn yr un gymuned wleidg y magwyd hi ynddi. Dychwelodd yno wedi bod i ffwrdd i astudio, a chyfnod o weithio ym Manceinion. Mae'r tirlun prydferth sy'n amgylchynu'r gymuned hon yn allweddol o ddylanwadol ar waith Eleri. Bu’r tir yn rhan annatod ohoni oddi ar adeg ei phlentyndod ar fferm yn Sir Drefaldwyn lle’r oedd hanes a thraddodiad yn berthnasol a’r tirwedd yn rhwydwaith o gysylltiadau diwylliannol.

Mae dawn dweud hefyd wedi ffurfio gwaith Eleri, sy'n creu delweddau yn ei meddwl sydd wedi eu seilio ar naratif mytholegol a hynafol. Mae Eleri'n creu eu darnau o waith trwy gyfuniad o frodwaith ac appliqué wedi eu gosod mewn haenau dros gynfas wedi ei baentio. Mae hi wedi arddangos ei gwaith yn eang trwy Ewrop, ac yn ddiweddar, enillodd Eleri wobr am yr arddangosyn gorau yn arddangosfa 'Art of Stitch' yn y Barbican, Llundain.

Wrth ailddehongli llun Richard Wilson o Gastell Dinas Bran yn y rhaglen olaf mae Eleri'n mynegi ei barn gref ynglŷn â swyddogaeth bwysig artistiaid Cymru. "Mae gan artistiaid Cymru rôl nid yn unig i edrych 'nôl dros y canrifoedd ond i edrych allan a mynd ag enw da Cymru allan gyda ni,” meddai.

Eleri Mills Eleri Mills Eleri Mills Eleri Mills