Y darlun fydd yn cael ei ddehongli o'r newydd yn y rhaglen hon ydy delwedd boblogaidd John Piper o Gastell Harlech. Roedd Piper yn un o artistiaid mwyaf amryddawn Prydain yn yr ugeinfed ganrif. Mae 182 o'i luniau yng nghasgliad oriel y Tate, a bu’n cynllunio ar gyfer y theatr ac ar gyfer eglwysi yn ogystal. Roedd yn briod â Chymraes o'r Myfanwy Evans, newyddiadurwraig ac aelod o gymdeithas Cymry Llundain.
Bydd y darlun yn cael ei ail ddehongli gan Elin Huws a Wil Rowlands. Yn ogystal â pheintio, mae Elin yn wehydd ac yn ei barn hi, creu tapestri oedd y cyfrwng mwyaf addas i adlewyrchu lliwiau distaw waliau’r castell. Mae hi'n defnyddio glwan, sidan a moher i gyfleu ei gweledigaeth, ac yn gweu delweddau o'r Mabinogi i mewn i'r llun, sy'n rhoi naws hudol i'r gwaith. Mewn cyferbyniad, creodd yr arlunydd profiadol o Fôn, Wil Rowlands, ddau lun – y naill mewn olew a’r llall mewn acrylig. Defnyddio Wil gyfrwng olew i gyfleu'r cyferbyniaeth rhwng pensaernïaeth heddiw a phensaernïeth cyfnod adeiladu'r castell, un "sinistr" yn ei farn ef. Defnyddiodd dywod ar acrylig i gyfleu natur haensyddol ei bwnc yn yr ail lun.
Gyda'r artistiaid
Elin Huws
Wil Rowlands

