English?

Byd o Liw Nadolig

Ceirw, celyn, beudy a baban bach - bwrw golwg ar sut mae'r Ŵyl wedi ysbrydoli gweithiau celf mewn eglwysi ac orielau, yn ogystal ag ar gardiau Nadolig, ar hyd yr oesoedd.

Yn y rhaglen, mae Osi Rhys Osmond yn gwahodd pedwar artist cyfoes i greu gwaith newydd sbon i ddathlu’r Nadolig. Gwelwn Cefyn Burgess ac Iwan Bala, Catrin Williams a Catrin Davies yn wynebu'r her, pob un yn ei ffordd ei hun. Ac yn ôl ei arfer, mae Osi wrth law i rannu'r profiad - a gwneud ychydig o dynnu coes.

Mae Catrin Williams, arlunydd sydd o deulu cefn gwlad, yn cychwyn ar ei gwaith ymhlith praidd o ddefaid ar fynydd ym Mhen Llŷn. Ei cham nesaf yw ymweld ag Eglwys Sant Beuno ym Mhistyll, ger Nefyn, ar hen ffordd y pererinion i Ynys Enlli.

Tecstilau yw hoff gyfrwng Cefyn Burgess o Ddeganwy. Mae’n creu siôl i fam a’i phlentyn, allan o gadachau a blodau wedi eu sychu. “Mae Cefyn wedi troi rhywbeth cyffredin yn rhywbeth anghyffredin a chywrain,” medd Osi.

Gwydr lliw yw’r cyfrwng mae Catrin Davies o Landeilo yn ei ddewis. Mae’n defnyddio ffrind a’i mab bychan fel modelau i’r llun canolog yn ei gwaith - portread o Mair a’r baban Iesu.

Mae Iwan Bala am ddod ag elfen o hwyl i mewn i'r gwaith. Mae'n penderfynu creu groto Nadoligaidd, yn ei gartref ei hun. Ond yn gyntaf rhaid mynd am dro i goedwig hynafol ger Beddau, Pontypridd i hel syniadau.

“Mae pob arlunydd wedi creu delwedd gofiadwy,” eglura Osi. "Trwy'r pedwar gwaith celf down ni i ddeall cyfoeth y Nadolig yn ein diwylliant."

Wrth grwydro Cymru mae'r rhaglen yn gyfle i weld delweddau Nadolig yn rhai o'n hen eglwysi, o Gaerdydd i Lanwrin ger Machynlleth, ac i Lanrhaeadr-yng-Nghinmael ger Rhuthun. Mae Osi hefyd yn sicrhau ein bod yn taro mewn i'r Oriel Genedlaethol yn Llundain, ac yn gweld y cerdyn Nadolig cyntaf oll.