English?

Iwan Bala

Yn ei eiriau ei hun, mae gwaith Iwan yn "… yn ymdrin â thirwedd diwylliant, cof a dychymyg. Rwyf yn ymdrechu i ymchwilio ac i greu ryw fath o fap o'r tirwedd personol yma, fy ynys fechan, er mwyn ei lleoli o fewn tirwedd ehangach y byd mawr."

Yn wreiddiol o'r Bala, mae Iwan yn byw yng Nghaerdydd bellach. Mae e'n gweithio yn rhan amser i Cywaith Cymru, mudiad cenedlaethol ar gyfer celf cyhoeddus yng Nghymru. ellach

Yn 1990 bu'n artist preswyl yn Oriel Genedlaethol Zimbabwe yn Harare, ac aeth yn ei ôl yno yn 1993 i gyflwyno rhaglen deledu ar y celfyddydau, Delweddau Zimbabwe yn 1993. Yn yr un flwyddyn cwblhaodd gwrs MA mewn Celfyddyd Gain.

Enillodd Iwan y Fedal Aur yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 1997 a derbyniodd Fedal Owain Glyn Dŵr am ei gyfraniad i'r celfyddydau yn 1998.

Mae Iwan yn teithio i bedwar ban byd i arddangos ei waith, gan gynnwys: Zimbabwe, Gwlad ŵŵyl, Iwerddon, Croasia, yr UDA, yr Almaen a Galicia. Arddangoswyd ei waith yn Hong Kong, Mecsico, Llydaw a'r Weriniaeth Czech.

Yn ogystal mae Iwan wedi curadu arddangosfeydd yn Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru, Oriel Glynn Vivian, Abertawe, Neuadd Dewi Sant, Caerdydd a Galeri Caernarfon, ac mae wedi cyfrannu hefyd at nifer o wyliau celf rhyngwladol lleoliadol.

Mae ei waith mewn nifer o gasgliadau preifat ym Mhrydain a thu hwnt, ac mewn sawl casgliad cyhoeddus. Mae Iwan yn aelod o Grŵp Beca, Ysbryd/Spirit ac ef oedd un o sylfaenwyr Y Prosiect Artistiaid. Mae ei waith ysgrifenedig wedi ymddangos yn Barn, Planet, Taliesin a Golwg. Mae e wedi cyhoeddi sawl llyfr ar gelf gweledol.

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

Iwan Bala Iwan Bala Iwan Bala Iwan Bala