English?

Lotte Hughes

Cafodd Lotte ei geni yn Aberystwyth yn 1984. Symudodd i Gaerfyrddin yn 2002. Mae ei datganiad artistig yn addo dyfodol diddorol o fewn cymuned gelfyddyol Cymru.

"Yr hyn sy'n fy niffinio i ydy lliw. Dwi wedi bod ynymchwilio i hyn yng nghyd-destun tirlun. Dwi'n chwilfrydig am y ffordd mae un lliw yn cyffwrdd mewn un arall. Dwi'n cael fy nghyfareddu gan yr hyn sydd o 'nghwmpas i, ac mae'r tirlun yn creu teimladau cryf. Dwi'n ceisio dal y paradocs rhwng yr awyr a'r tir. Tameidiau.

"Mae gen i ddiddordeb mewn gweld sut mae golau'n effeithio ar y tywyllwch, y ffordd mae'r tirlun yn newid trwy'r amser, sy'n creu ymdeimlad amrywiol ynom ni. Dwi'n gweld yr elfennau tyner a meddal yn y tirlun. Mae defnyddio iaith weledol i fynegi harddwch a dangos ei rin myfyrgar yn gallu bod yn gyffrous ac ennyn hiraeth. Dwi'n defnyddio delweddau amryfal i fynegi maint a graddfa tirlun, a'r ffordd mae'n parhau y tu hwnt i'r hyn mae'r llygad yn ei weld.

Mae'r tirlun yn gwneud i fi deimlo 'mod i'n perthyn, fod i mi le mewn amser. Eiliadau. Mae gen i ddiddordeb byw yn y modd mae llygredd goleuni'n gallu edrych mor hardd a sut, er bod gyda ni i gyd gydwybod sy'n ein pigo am lygredd a dinistr dyn, fod yn dal i fod gyda ni ymlyniad emosiynol i'n hamgylchedd."

Lotte Hughes Lotte Hughes Lotte Hughes Lotte Hughes