English?

Luned Rhys Parri

Mae Luned Rhys Parri yn ennill ei bywoliaeth yn rhannol trwy gyfrwng ei chelfyddyd, ond ers 1993 bu hefyd yn ddarlithydd rhan-amser. Treuliodd gyfnodau fel artist preswyl mewn nifer helaeth o ysgolion a gwyliau dros y blynyddoedd – gwaith sydd wrth ei bodd, gan ei fod yn dod â hi i gysylltiad â chynifer wahanol o bobl. Mae’r profiad hwnnw wedi cyfoethogi llawer o’i gwaith a gyflawnir ganddi ar ei phen ei hun yn y stiwdio.

Dywed mai peintwraig ydyw yn y bôn, er bod elfennau tri dimensiwn yn amlwg iawn yn ei gwaith. Y mae ar ei gorau yn trin defnyddiau cyffredin fel tun ffoil, cardbord, papur a gwifren, gan eu cyfuno â phaent i greu delweddau sy’n disgrifio atgofion o’i phlentyndod a’i chefndir yng nghefn gwlad a threfi Cymru.

Mae Luned Rhys Parri wedi arddangos ei gwaith ledled Cymru. Yn 1989 cafodd ei enwi’n Fyfyrwraig y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn 2001 fe enillodd gwobr Dewis y Bobl, eto yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Luned Rhys Parri Luned Rhys Parri Luned Rhys Parri Luned Rhys Parri