Ganed yn Nhrebanws, Cwm Tawe yn 1925. Mae’n byw yn Nhregaron, Ceredigion. Astudiodd yn Ysgol Gelf Abertawe. Mabwysiadodd Ogwyn agwedd fwy dyngarol na Turner wrth greu ei ddarlun trwy ganolbwyntio'n llwyr ar stori Owain Goch. Cafodd hanes brawd yn carcharu ei frawd argraff gref ar Ogwyn. Mae’n diweddaru’r stori trwy greu delwedd fodern o’r carcharor. O’i gwmpas yn y llun mae 8,000 o farciau yn cynrychioli nifer y dyddiau fu Owain yn gaeth yn y castell.
"Fel arfer, fe fyddwn yn meddwl am gastell fel lle i gadw tresbaswyr allan, ond yn y stori y castell sy'n cadw Owain yn gaeth o fewn y muriau," meddai Ogwyn. "I fi, mae’r stori’n bwysicach na’r castell ei hun, er ei fod yn adeilad trawiadol a'r awyr, y cymylau a’r mynyddoedd yn creu cefnlen dramatig."


