.
English?

Côt newydd o baent i gestyll Cymru - Castell Raglan a Chastell Carreg Cennen

Castell Raglan Castell Raglan Castell Raglan

Gwnaeth yr artist Alan Sorrell gyfraniad mawr i’n hamgyffred o Gymru yn y cyfnod cynnar. Mae ei luniau o dirweddau garw a strwythurau anferth byd natur yn gefndir i bobl gyffredin sy'n crafu byw yn adnabyddus yng Nghymru a thu hwnt. Fe’u crëwyd mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Ail ddehonglir dau o’i luniau yn y rhaglen hon, sef Castell Rhaglan yn Sir Fynwy a Chastell Carreg Cennen yn Nyffryn Tywi. Y ddau artist a fydd yn mynd i'r afael â'r ail ddehongli ydy'r artist ifanc Luned Rhys Parri (Castell Rhaglan) a'r arlynudd poblogaidd Aneurin Jones (Castell Carreg Cennen).

Mae Luned yn arbenigo mewn cerfluniau aml-gyfrwng o unigolion gan amlaf. Fydd hi ddim fel arfer yn gweithio gyda chestyll ond mae’n mynd at y gwaith gyda brwdfrydedd. Mae Luned yn edmygu gwaith Sorrell, yn enwedig y ffordd mae e'n newid perspectif ei bwnc. Mae llun gorffenedig Luned yn cynnwys defnyddiau fel papur, cardbord ac hyd yn oed darn o hen grys ei gŵr. Roedd gan Aneurin Jones lun llawer mwy traddodiadol mewn golwg. Mae’n gweithio mewn olew ac yn ystyried Carreg Cennen fel castell ag iddo elfen o fyd y "… tylwyth teg, yn real iawn ond hefyd gyda rhywbeth breuddwydiol yn perthyn iddo." Er bod y golau'n eithaf mwll ar y diwrnod yr aeth Aneurin i'r castell i wneud ei frasluniau, doedd e ddim yn poeni, am fod hyn wedi ychwanegu at naws y castell ei hun a'r tirwedd o'i amgylch.

Gyda'r artistiaid
Luned Rhys Parri
Aneurin Jones