Mae Rowena Edwards yn 20 oed, yn gyn fyfyrwraig yng Ngholeg Menai, Bangor, ac ar hyn o bryd mae'n astudio yn y Chelsea School of Art, Llundain. Mae hi'n edmygu Tracey Emin a C Y Twombly ymhlith artistiaid eraill, ac mae'n frodor o Gaernarfon. Mae'r castell yn agos at ei chalon, a phenderfynodd Rowena greu ei brasluniau oddi mewn i furiau'r castell gan edrych dros olygfa draddodiadol ar draws y Fenai tra'n defnyddio muriau dadfeiliol y castell fel ffrâm i'w gwaith.
Mae ei gwaith hi, fodd bynnag, yn hollol groes i draddodiadol. Fel artist ifanc, mae Rowena'n dal i arbrofi gyda gwahanol gyfryngau a dulliau o weithio. Yn ei dehongliad hi o gastell Caernarfon mae hi'n defnyddio cerrig o lannau'r Fenai, gwlân Cymreig, cŵyr tawdd a deunyddiau eraill ar gefnlen hen gwrlid gwely. Dewisodd hi ddefnydddio defnyddiau o'i chartref a'i hamgylchedd er mwyn i'r gwyliwr ganolbwyntio ar ar y ffaith ei fod yn gastell lleol sy'n bwysig i'w hardal hi.
Meddai Rowena: "Mae'r cwrlid yn rhoi mwy o ddyfnder i fi na chynfas, mae mwy o ddefnydd rhydd ynddo felly mae'r cŵyr yn ei blygion yn rhoi adlewyrchu da i'r cymylau. Mae'r castell yn annwyl iawn i mi, ond mae'n adeilad crand ac urddasol ac roeddwn i am roi ychydig o hiwmor iddo." Bu Rowena'n ymweld â'r castell amlaf pan oedd hi'n blentyn, ac felly roedd hi am gale gwared ar yr ogwydd wleidyddol sy'n perthyn iddo, ac annog pobl i werthfawrogi'r castell a'i amgylchedd fel y lle hardd ydy e, fel y gwnaeth hi pan oedd hi'n iau.


