English?

Wil Rowlands

Ganwyd a magwyd Wil ar Ynys Môn, ac mae ei waith yn ymwneud â bywyd gwledig a phobl yr ynys, y tir a'r môr, a'r peth anniffiniadol sydd rhyngddynt. Mae'n gweithio mewn olew, acrylig, dyfrlliw, aml gyfrwng a graffit.

Mae gwaith Wil yn amrywiol mewn cynnwys a chyfrwng. Cafodd ei fagu ar y fferm yng nghefn gwlad Ynys Môn ac mae ei waith yn adlewyrchu ei gariad tuag at yr amgylchfyd hwn, gan gynnwys tirluniau, anifeiliaid ac adeiladau. Mae e bellach yn byw ger y môr, mae’n ymdrin â’r thema hon, weithiau yn edrych ar y tirlun 'oddi allan'. Mae e hefyd yn dychwelyd at themâu megis cychod a phorthladdoedd, ac wrth gwrs, Mynydd Parys. Fel estyniad o’r broses o fod yn arlunydd gweledol, mae Wil hefyd yn argraffu gyda llaw trwy wneud printiadau leino, ysgythriadau a phrintiadau carborwndwm.

Wil Rowlands Wil Rowlands Wil Rowlands Wil Rowlands