English?

Byd o Liw...

Osi Rhys Osmond

Yn y gyfres gelf newydd Byd o Liw bydd artisitiaid Cymreig cyfoes yn cynnig dehongliadau ffres o rai o ddarluniau enwocaf ein harfordir. Eu sialens bydd dilyn ôl troed chwech o feistri’r gorffennol gafodd eu hysbrydoli gan arfordir trawiadol Cymru a bydd y gweithiau newydd yn ganolbwynt i arddangosfa gelf deithiol.

Bydd Mary Lloyd Jones, Gwilym Prichard, Rob Piercy a Catrin Webster ymhlith y rheiny sy’n cynnig dehongliadau newydd o olygfeydd a baentiwyd gan Turner, Sisley ac eraill.

Osi Rhys Osmond...

Osi Rhys Osmond

Yr artist egnïol a charismatig Osi Rhys Osmond sy’n cyflwyno’r gyfres chwe rhan hon.

Yn arlunydd, awdur a darlithydd celf, mae Osi Rhys Osmond, sy’n wreiddiol o Wattstown yn y Rhondda, bellach yn byw yn Llansteffan, Sir Gaerfyrddin, pentref sydd wedi cyfoethogi ei werthfawrogiad o hanes a chelf y môr.