Mae Catrin, sy’n byw yn Aberystwyth ond cafodd ei magu yng Nghaerdydd, yn portreadu’r môr o’r lan gan ddefnyddio stiwdio symudol – ei fan ei hun – sy’n dal ei chynfas. Yn ddiddorol, defnyddia olew du a gwyn yn unig i ddarlunio’r môr lliwgar.
Dywed Catrin, “Mae enaid y môr yn rhan annatod ohona i oherwydd rwy’n byw ger yr arfordir. Rwy’n methu byw heb y môr. Ceir teimlad o berygl yn y môr felly rydw i eisiau portreadu’r perygl hyn yn fy ngwaith. Pan fyddai ar y môr, rwy’n gwybod beth mae Harris yn ei gyfleu a gallaf deimlo ei gwch yn siglo. Gobeithiaf ddehongli y pwer a’r grym yn ei waith yn fy fersiwn innau.”
Bydd gwaith newydd Catrin yn cael ei arddangos i'r cyhoedd fel rhan o daith gelf arbennig.
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

