Cymraeg?

Catrin Williams

Daw Catrin yn wreiddiol o ardal y Bala yng Ngwynedd, ond erbyn heddiw mae’n byw yn nhref arfordirol Pwllheli ar gogledd orllewin y sir. Gweithia Catrin yn bennaf gyda phasteli, tecstiliau ac ystod eang o ddeunydd eraill yn ei gwaith amlgyfrwng. Ysbrydolir themau ei gwaith gan gefn gwlad a’r arfordir.

Eglura Catrin, “Rwy’n hoff iawn o lun Riley a chredaf ei fod yn hysbyseb dda ar gyfer Aberystwyth. Mae’n rhaid i mi gyfaddef fod y prosiect wedi bod yn sialens mawr. Casglais amryw o ddefnydd at ei gilydd er mwyn cyfleu holl elfennau y llun. Rwy’n awyddus i ddylunio mwy o olygfeydd o’r tirlun yn y dyfodol.”

Bydd gwaith newydd Catrin yn cael ei arddangos i'r cyhoedd fel rhan o daith gelf arbennig. Am fwy o wybodaeth am y daith cliciwch yma.

Catrin Williams Catrin Williams Catrin Williams Catrin Williams