English?

Darlun goleudy Caergybi gan Gastineau yn ysbrydoli artistiaid
ar S4C

Henry Gastineau Henry Gastineau Henry Gastineau

Dau artist cyfoes Cymreig sy’n dilyn ôl-traed arlunydd y bedwaredd ganrif ar bymtheg Henry G Gastineau, drwy bortreadu darluniau ei hunain o lun enwog Goleudi Ynys Lawd, Caergybi.

Derbyniodd Rob Piercy, dyfrlliwiwr o Borthmadog a Stuart Byrne, cerflunydd o Gaergybi, y sialens ar gyfer Byd O Liw, cyfres arlunio ar S4C.

Gweithiodd Henry G. Gastineau (1791-1876) yn Camberwell, de Llundain fel athro arlunio, ond daeth yn enwog am ei luniau ddyfrlliw oedd gan amlaf wedi’u ysbrydoli gan gefn gwlad gwyllt Cymru.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yw cartref dyfrlliw mawr Gastineau, ‘South Stack’, sy’n dangos gweithwyr yn adeiladu grisiau cerrig rhwng y tir clogwynog a chraig y goleudy. Ceir amryw o wrthgyferbyniadau dramatig gan gynnwys symbolaeth Cristnogol, sy’n portreadu dyn yn brwydro’n erbyn natur.

Gyda'r artistiaid...
Rob Piercy
Stuart Byrne