Daw Gwennan Gruffudd o Dudweiliog ym Mhen Llyn a defnyddia lamp losgi er mwyn cwblhau ei gwaith amlgyfrwng. Cyn dechrau llunio’r ddarlun mae’n casglu sbwriel oddi ar y traethau cyn gwneud braslun o’r aber. Mae’r arfordir yn rhan annatod o’i gwaith.
Dywed Gwennan, sy’n fyfyrwraig yng Ngholeg Menai, “Credaf fod llun Turner yn ffantastig, a’i ddefnydd o olau yn rhyfeddol. Rwy’n teimlo hefyd fod y tirlun gyfoes o amgylch Castell Fflint yn fwy ddiddorol heddiw nag yng nghyfnod Turner. Mae sbwriel y diwydiant ar y llethrau yn fy ysbrydoli i”.
Bydd gwaith newydd Gwennan yn cael ei arddangos i'r cyhoedd fel rhan o daith gelf arbennig. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.




