Mae Gwilym Prichard, a’i wraig Claudia Williams, sydd hefyd yn arlunydd, wedi byw a gweithio yn Llydaw yn ddiweddar, a portreadir y môr a’r afordir yn aml yn ei waith. Daw Gwilym yn wreiddiol o Lanystumdwy, Gwynedd a chawn weld ef yn darlunio ei lun o Ystumllwynarth ar ei gwch hwylio yn y Bae ac yn ei stiwdio yn Ninbych-Y-Pysgod yn Sir Benfro.
Datblyga darlun olew ar gynfas Gwilym mewn ffordd gwahanol i lun gwreiddiol Harris, wnaeth ganolbwyntio ar longau a chomisiynwyd ef i dynnu lluniau gan berchnogion y llongau. Canolbwyntia Gwilym darlunio’r môr, yr awyr a chanolfannau modern tref arfordirol Ystumllwynarth.
Eglura Gwilym, “Prif ddiddordeb James Harries oedd y llongau a darlunia y manylder arnynt yn wych. Nid yw llongau na chychod o ddiddordeb i mi oherwydd fod angen llawer o amser i’w dylunio oherwydd y llanw symudol a chyfeiriad y gwynt. Serch hynny, ers i mi fraslunio allan ar y môr mae gen i ddiddordeb mewn cysgodion a lliwiau gwrthgyferbynol y môr yn ogystal â’r awyr tywyll a’r cymylau trawiadol.
Bydd gwaith newydd Gwilym yn cael ei arddangos i'r cyhoedd fel rhan o daith gelf arbennig. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

