Astudiodd Huw Jones, sy’n byw yn Llanfairfechan, yn Ysgol Gelf Chelsea ac mae wedi arddangos ei waith yn Lloegr, yr Alban a Chymru.
Doedd Huw heb astudio gwaith Lowry yn fanwl nes iddo dderbyn sialens Byd O Liw. Dywed, “Ers dechrau’r her yma, rwy’n edmygu gwaith Lowry. Roedd e’n gymeriad diddorol oedd yn defnyddio paent mewn ffordd diddorol hefyd.”
Mae gan Huw steil unigryw ei hun – mae chwyn yn ganolog i’w holl ddarluniau o’r tirwedd, sydd gan amlaf yn cyfleu delweddau trefol a naturiol o heol A55 sy’n arfordir Gogledd Cymru. Chwyn ydy canolbwynt ei lun unwaith eto oherwydd hoffa ddylunio planhigion a blodau prydferth sy’n tyfu ar ochr yr heol, sydd gan amlaf yn cael eu hanwybyddu gan bobl.
Bydd gwaith newydd Huw yn cael ei arddangos i'r cyhoedd fel rhan o daith gelf arbennig.
Am fwy o wybodaeth am y daith cliciwch yma.

