Wedi ei eni yn Nhreharris, mae Ifor Davies wedi astudio celf yn Abertawe, Caerdydd, Y Swistir a Chaeredin. Mae’n creu gwaith mewn gwahanol arddulliau o’i stiwdio yn nhref glan môr Penarth.
Er iddo feirniadu Lowry, fe wnaeth Ifor mwynhau’r sialens. “Dwi’m yn hoff iawn o lun Lowry, ond rwy’n falch i gael y cyfle i ddylunio Y Rhyl yn enwedig o safbwynt Lowry. Rhaid i mi gyfaddef, roeddwn well gen i ddylunio llun rhywun fel Lowry yn hytrach na Thomas Jones neu Richard Wilson, dau rwy’n eu edmygu, oherwydd yn fy marn i, nid yw’n anodd dilyn ôl-troed gwaith Lowry.
Dywed Ifor fod ei lun yn barodi o ddarlun Lowry, sy’n cynnwys y llongau a’r ffigyrau tenau nodweddiadol y llun gwreiddiol, ond defnyddia agweddau o’i waith aml-gyfrwng yntau hefyd. Defnyddia gymysgedd ŵy a mwd o lannau Y Rhyl fel sylfaen y llun yn ogystal â sbwriel eraill a gasglodd oddi ar y traeth.
Bydd gwaith newydd Ifor yn cael ei arddangos i'r cyhoedd fel rhan o daith gelf arbennig.
Am fwy o wybodaeth am y daith cliciwch yma.

