Mae Iwan Gwyn Parry o Rachub ger Bethesda yn edmygwr mawr o weledigaeth arloesol Turner. Wedi ei eni a'i fagu yng Nghaergybi, Ynys Môn, mae'r artist a'r darlithydd coleg 35 mlwydd oed yn credu dylid portreadu pob agwedd o’r dirwedd fodern, gan gynnwys arwyddion o ddiwydiant yn ogystal â phrydferthwch naturiol. Paentia ddarluniau olew pwerus a dramatig o arfordir Gogledd Cymru.
Eglura Iwan, “Yr hyn wnaeth denu mi at y math hwn o dirwedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf oedd y gwrthgyferbyniad rhwng y golygfeydd naturiol prydferth ac adeiladau diwydiannol sy’n hardd yn eu ffordd eu hunain. Does gen i ddim awydd dylunio llun hiraethus o gefn gwlad Cymru. Mae’r tirlun cyfan o ddiddordeb i mi, a dyna beth wnaeth denu Turner hefyd.
Ar gyfer yr her hon, paratowyd braslun ar gyfer ei lun olew sy’n dangos tŵr dur fodern ynghanol ac ar lethrau’r aber.
Bydd gwaith newydd Iwan yn cael ei arddangos i'r cyhoedd fel rhan o daith gelf arbennig. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.


