English?

Cloi’r gyfres gyda darlun LS Lowry o Harbwr Y Rhyl

LS Lowry LS Lowry LS Lowry

Daw’r gyfres gelf hon i ben gyda gwledd o liwiau sy’n dangos dau artist Cymreig yn bwrw golwg newydd ar ddarlun Harbwr Y Rhyl gan LS Lowry.

Ym mhennod ola’r gyfres, dysgwn am gefndir llun llawn cymeriad sy’n nodweddiadol iawn o waith Lowry. Ifor Jones o Penarth a Huw Jones o Llanfairfechan, Gwynedd sy’n creu detholiad ei hunain o'r darlun arbennig hwn.

Mae’n rhaid i’r cyflwynydd Osi Rhys Osmond dwyn perswad Ifor Jones, gan nad yw’n hoff o waith Lowry. Er mwyn ceisio newid barn Ifor, aeth Osi ag ef i dref enedigol Lowry sef Salford, ger Manceinion yn arbennig i Ganolfan Lowry yng Nghei Salford.

Eglura Osi yn y rhaglen, fod llun Harbwr Y Rhyl wedi’i ddylunio yn ystod cyfnod anodd ym mywyd Lowry, yn dilyn marwolaeth ei fam yn 1939. Pan yn blentyn, treuliodd Lowry nifer o’i wyliau haf yn y dref arfordirol, gall hwn esbonio felly pam fod y llun mor lliwgar o gymharu â’i weithiau tywyll arferol o adeiladau diwydiannol. Serch hynny mae unigrwydd ac anobaith yn amlwg yn y llun drwy edrych ar yr awyr tywyll.

Gyda'r artistiaid...
Ifor Davies
Huw Jones