English?

Mary Lloyd Jones

Adnabyddir Mary Lloyd Jones, o Bontarfynach yng Ngheredigion, am ei gwaith cyfoethog a’i dehongliadau trawiadol o’r tirlun. Ysbrydolir Mary gan hanes a daearyddiaeth tirwedd Cymru ac mae ganddi stiwdio yn Aberystwyth. Mae seiliau Cymreig darluniau Mary yn gyfoeddocach yn sgîl y dylanwadau a’r steiliau amrywiol a ddarganfyddodd hi tra’n teithio India a gwledydd eraill.

Penderfynodd Mary ganolbwyntio ar y cerrig mân coch ar greigiau Penarth, yn hytrach na’r môr, yn ei brasluniau. Datblygodd nifer o luniau o wyneb coch y graig wedi eu ysbrydoli gan liwiau Sisley a ffurfiadau gwych y graig Cymreig.

Dywed Mary, “Rwy’n hoffi’r haenau yn y graig – mae pob stribed yn cynrychioli miloedd ar miloedd o flynyddoedd. Cefais syndod yn y nifer o ffosilau hefyd. Mae llun Sisley’n ffres ac yn llawn bywyd gyda lliwiau trawiadol yn amlwg tu hwnt. Nid yw’r llun yn dywyll nac yn aneglur ond mae’n ddarlun bywiog iawn. Llwyddodd yr Argraffiadwyr weithio yn yr awyr agored gan gyfleu lliwiau’n onest fel y gwelwyd. Roedden nhw’n gwybod bod angen iddyn nhw wrthgyferbynnu lliwiau ac hyd yn oed cael lliwiau cryf fel cysgodion.”

Bydd gwaith newydd Mary yn cael ei arddangos i'r cyhoedd fel rhan o daith gelf arbennig.
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma

Mary Lloyd Jones Mary Lloyd Jones Mary Lloyd Jones Mary Lloyd Jones