Ganwyd Meirion yn Aberteifi ac astudiodd yng Ngholeg Arlunio Dyfed. Mae Meirion yn rhannu stiwdio gyda’i dad, yr artist fyd-enwog Aneurin Jones, a darlunia ffigyrau, y tirlun a’r arfordir yn ei waith.
Eglura Meirion, “Pobl yw canolbwynt darluniau i mi oherwydd edrychaf am y stori maen nhw’n ei ddweud. Mae llun i mi fel pennod agoriadol stori fer sy’n gosod yr olygfa a chyflwyno’r cymeriad yna gadael i’r unigolyn ddychmygu a chwblhau’r gweddill y stori.”
Bydd gwaith newydd Meirion yn cael ei arddangos i'r cyhoedd fel rhan o daith gelf arbennig. Am fwy o wybodaeth am y daith cliciwch yma.

