Yn ail rhaglen y gyfres, dysgwn mai glan-y-môr Aberystwyth yw un o olygfeydd enwocaf Cymru. Does dim byd mwy trawiadol nag edrych ar y prom ar ei hyd, Craig Glais (Consti) y tu hwnt iddo, ac yn y pellter, ar ddiwrnod clir o leiaf, holl siâp canolbarth a gogledd Cymru, o Fae Clarach i drwyn Pen Llŷn.
Mae’n siŵr y gwnaeth yr artist Henry Riley werthfawrogi panorama dramatig Bae Ceredigion pan ddaeth i Aberystwyth i weithio yn y 1950au. Ond roedd ganddo gomisiwn penodol yng nghanolbarth Cymru – i greu darlun ar gyfer poster i Reilffyrdd Prydeinig er mwyn denu ymwelwyr i ddefnyddio’r trên i ddod ar eu gwyliau i Aberystwyth.
Dywed Osi, “Mae llun Riley yn dangos yr hyder newydd a ddaeth i’r amlwg ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Mae pawb yn edrych mor hapus yn y llun. Mae yna dueddiad i ddibrisio celfyddyd y poster, am ei bod yn gelfyddyd fasnachol yn hytrach na chelfyddyd gain, ond mae’n ddyfeisgar iawn yn y ffordd mae’n defnyddio lliwiau.”
Ymchwilia’r cyflwynydd Osi Rhys Osmond am hanes y poster apelgar gan ddilyn dau artist, ar leoliad ac yn eu stiwdios wrth iddyn nhw weithio ar ddetholiad ei hunain o’r olygfa glan-môr.
Dyw Meirion Jones na Catrin Williams yn cofio’r 1950au, ond mae’r môr a Bae Ceredigion yn golygu cryn dipyn i’r ddau ohonynt. Canlyniad yr her yw dau lun difyr, sy’n cyfleu pethau gwahanol iawn am yr olygfa gyfarwydd hon yn Aberystwyth.
Dywed Osi Osmond ei bod yn drueni nad yw’r cwmnïau rheilffyrdd bellach yn comisiynu lluniau gan artistiaid i hysbysebu eu trenau. Felly, beth amdani? Dyma ddau lun fyddai’n sicr o roi byd o liw i’n gorsafoedd trenau llwyd.
Gyda'r artistiaid...
Meirion Jones
Catrin Williams

