Ganed a magwyd Rob Piercy ym Mhorthmadog. Hyfforddodd yn athro celf a dysgodd am 15 mlynedd cyn gadael byd addysg i ganolbwyntio ar ei waith fel artist.
Arbeniga Rob, fel Gastineau, mewn dyfrlliwiau yn enwedig rhai o’r arfordir a thirwedd Yr Wyddfa. Enillodd wobr Artist Cymreig Y Flwyddyn yn 2002, ac ar gyfer yr her hon aeth ar leoliad am ysbrydoliaeth cyn gorffen ei lun yn ei stiwdio ym Mhorthmadog.
Dywed Rob, “Roeddwn i’n dringio creigiau ymhell cyn dechrau paentio. Deallaf mwy am dir creigiog yn sgîl dringo mynyddoedd sydd bellach wedi dylanwadu fy ngwaith wrth i mi bortreadu’r arfordir creigiog, fel y darlun hwn.”
Bydd gwaith newydd Gwennan yn cael ei arddangos i'r cyhoedd fel rhan o daith gelf arbennig. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

