English?

Bwrw golwg ar gampwaith Argraffiadwr o ddarlun Penarth

Alfred Sisley Alfred Sisley Alfred Sisley

Yn y bennod hon, bydd dau artist Cymreig yn bwrw golwg o’r newydd ar un o gampweithiau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ‘Môr Hafren o Benarth; Hwyrnos 1897’, gan Alfred Sisley.

Mary Lloyd Jones a Therese Urbanska sy’n cymryd darlun Sisley’n ysbrydoliaeth ar gyfer eu darluniau hwythau, Bydd y cyflwynydd Osi Rhys Osmond yn ymchwilio hanes y llun syfrdanol gan ddilyn y ddau artist ar leoliad ac yn eu stiwdios yn Aberystwyth a Penllyn.

Paentiwyd y llun olew gwreiddiol gan yr Argraffiadwr ar ei ymweliad â Chymru (neu Lloegr fel a elwir ganddo) yn ystod ei daith o amgylch Prydain er mwyn dianc rhag gyhoeddusrwydd Ffrainc. Daeth Sisley yn ôl i Brydain yng ngwanwyn 1894 yn rhannol oherwydd arddangosfa gywilyddus o’i waith ym Mharis. Yn ogystal, daeth i Brydain i briodi ei bartner hir dymor, Marie Louise Adélaïde Eugéne Lescouezec (1834-1898).

Darluniodd Sisley llun arfordir creigiog Penarth yn ystod cyfnod anodd ym mywyd y gwr a anwyd i deulu Prydeinig yn Ffrainc. Does dim amheuaeth mai Sisley oedd un o sylfaenwyr y symudiad Argraffiadaeth ynghyd â Monet, Renoir ac artisitiad allweddol eraill.

Gyda'r artistiaid...
Mary Lloyd Jones
Therese Urbanska