Mae Stuart, sy’n byw yng Nghaergybi, Ynys Môn, yn dilyn cwrs gradd yng Ngholeg Parc Menai. Mae ei gynefin yn ysbrydoli ei waith arbrofol, tri dimensiwn yn enwedig yr agwedd ddiwydiannol. Mae’r porthladd a’r rheilffordd yn ddeunydd helaeth ar gyfer ei gerfluniau a’i luniau.
Mae ei ddetholiad o ‘South Stack’, sy’n graig enbyd gyda 400 o risiau’n arwain i’r goleudy, yn wahanol i lun Gastineau. Eglura Stuart, “Ceir egni naturiol ei greu wrth ddod fan hyn i fraslunio a paentio’r arfordir creigiog. Mae gwaith Gastineau yn ysgafnach a goleuach tra dyluniwyd fy narlun i yn gyflym”.
Bydd gwaith newydd Stuart yn cael ei arddangos i'r cyhoedd fel rhan o daith gelf arbennig. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

