English?

Therese Urbanska

Enillodd Therese Urbanska, o Rhydyclafdy, Pen Llyn, “Wobr yr Artist Ifanc” yng nghystadleuaeth celf Hud a Lledrith Llŷn yn 2004. Mae’n fyfyrwraig Coleg Menai sy’n creu deunydd amlgyfrwng. Hoffa Therese weithio gyda phapur a chynfas gan ddefnyddio amryw o gyfryngau fel pasteli, paent, siarcol a gludweithiau. Cychwynodd yr her drwy gasglu sbwriel ar draethau Penarth er mwyn cael ysbrydoliaeth.

Dywed Therese, “Fe wnes i frasluniau er mwyn teimlo’r lleoliad gan ffocysu ar y tirwedd sy’n llun Sisley. Pan es i adre i’r stiwdio, teimlais y pethau wnes i casglu oddi ar y traeth â chyfuno’r teimlad a gefais ar leoliad, er mwyn cyfleu darlun personol o’r tirlun, gan ddefnyddio rhai o’r un lliwiau a ddefnyddiodd Sisley.”

Bydd gwaith newydd Therese yn cael ei arddangos i'r cyhoedd fel rhan o daith gelf arbennig. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

Therese Urbanska Therese Urbanska Therese Urbanska Therese Urbanska