English?

Golwg newydd ar ddarlun Sir Fflint Turner gyda S4C

JMWTurner Iwan Gwyn Parry Gwennan Gruffudd

Yn y rhaglen gyntaf, cawn weld dau arlunydd cyfoes Cymreig yn dilyn ôl traed yr arlunydd J M W Turner er mwyn ail-greu un o’i weithiau enwocaf.

Bydd Osi yn mynd â’i gyd-artistiaid, Iwan Gwyn Parry a Gwennan Gruffydd i aber yr afon Ddyfrdwy yn Sir y Fflint lle gwnaeth J M W Turner dynnu braslun o’i ddyfrlliw enwog ‘Flint Castle’ yn 1799.

Fe y gwelwn, mae’r dirwedd a fu’n ysbrydoliaeth i lun Turner o gastell y Fflint wedi newid cryn dipyn ers troad y bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda gorsaf bŵer mawr yn amlwg ar lethrau’r aber. Darganfydda Osi fod y ganolfan ddiwydiannol hwn yn ysbrydoli artistiaid yr unfed ganrif ar huagin gymaint â’r tirwedd naturiol prydferth.

Ni chwblhawyd y dyfrlliw gwreiddiol ar gefndir cynfas am bymtheg mlynedd ar ôl ymweliad Turner ond y lliwiau disglair a chysgodion sy’n gwneud y ddarlun yn glasur.

Roedd tirwedd annofedig Cymru ynghyd â’i hanes a diwylliant yn hudo Turner, a gafodd ei ddylanwadu gan yr awdur teithiol Thomas Pennant a chyd-arlunydd, Richard Wilson. Adlewyrchir hyn yn ei ystod o luniau adleisiol o Ogledd Cymru a mannau eraill yn y Deyrnas Unedig.

Gyda'r artistiaid...
Iwan Gwyn Parry
Gwennan Gruffydd