Bob wythnos mae S4C yn darlledu dros 80 awr o raglenni Cymraeg ar sawl llwyfan, gan gynnwys teledu a band llydan. O ganlyniad, mae’n bosibl i wylwyr dros Brydain a thu hwnt fwynhau arlwy Gymraeg.
Bob wythnos mae S4C yn darlledu dros 80 awr o raglenni Cymraeg ar sawl llwyfan, gan gynnwys teledu a band llydan. O ganlyniad, mae’n bosibl i wylwyr dros Brydain a thu hwnt fwynhau arlwy Gymraeg.
Cwmnïau teledu annibynnol sy’n cynhyrchu’r rhan fwyaf o raglenni S4C. Mae’r BBC yn darparu dros ddeg awr yr wythnos o raglenni ac mae ITV Cymru hefyd yn creu rhaglenni i ni.
Mae amrywiaeth o raglenni yn cael eu darlledu, gan gynnwys digwyddiadau cenedlaethol byw, chwaraeon, cerddoriaeth, newyddion, drama, adloniant, plant, diwylliant, gwledig a hamdden.
Yn 2009 bydd y Llywodraeth yn diffodd y signal analog yng Nghymru. Bryd hynny, bydd S4C yn wasanaeth cyflawn Gymraeg. Ni fydd rhaglenni Saesneg Channel 4 yn cael eu darlledu ar S4C gan y bydd y sianel honno ar gael yn rhwydd yng Nghymru.
Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon sy’n ariannu S4C. Yn 2006 cafodd y Sianel gymhorthdal o £90m gan yr Adran. Mae gan S4C yr hawl i greu incwm masnachol ychwanegol drwy werthu rhaglenni a gofod hysbysebu a thrwy weithio â darlledwyr eraill ar gydgynhyrchiadau.
Rydym wrthi'n ail adeiladu pob rhan o'n gwefan fel bod pob adran yn cyrraedd ein safonau rhagoriaeth yn ogystal â safonau hygyrchedd sydd wedi eu nodi yn ein canllawiau. Mae adran ddogfennau, adroddiadau a pholisïau S4C yn ogystal â gwybodaeth ynglyn ag Awdurdod S4C yn un o'r adrannau hynny fydd yn cael ei hail adeiladu yn fuan. Yn y cyfamser, gallwch edrych ar yr adran hon ar ein hen wefan.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales