Neidio at y cynnwys

S4C

Cystadlaethau

Cystadleuaeth Seren Bethlehem

Telerau ac Amodau'r Gystadleuaeth

Y telerau a'r amodau hyn, ynghyd â rheolau a gweithdrefn y gystadleuaeth a roddwyd i chi yw rheolau'r gystadleuaeth ("Rheolau") sy'n berthnasol i gystadleuaeth Seren Bethlehem S4C ("y Gystadleuaeth"). Os bydd unrhyw anghysondeb rhwng rheolau a gweithdrefn y gystadleuaeth a'r telerau a'r amodau hyn, y telerau a'r amodau hyn fydd yn sefyll. Trwy gymryd rhan yn y Gystadleuaeth rydych yn cytuno i fod yn gaeth i'r Rheolau.

  1. Trefnir y Gystadleuaeth gan gwmni Boomerang + ccc, 218 Penarth Road, Caerdydd CF11 8NN (rhif cwmni 2936337) ("y Cwmni").
  2. I fod yn gymwys i gymryd rhan yn y Gystadleuaeth, mae'n rhaid eich bod yn ddisgybl yn un o'r ysgolion canlynol yn nalgylch Bethlehem:Ysgol Gynradd Ffairfach, Ysgol Gynradd Llandeilo, Ysgol Gymraeg Teilo Sant, Ysgol Gynradd Cwm Ifor ac Ysgol Gynradd Llangadog.
  3. Mae'r gystadleuaeth yn agored i unigolion yn unig. Caniateir un ymgais yr unigolyn.
  4. vI gystadlu, rhaid i'r ymgeisydd greu darlun o seren ar ddarn o bapur maint A4. Bydd y darlun buddugol yn ysbrydoli cynllun darn o gelf ar ffurf seren gaiff ei greu gan y gôf Nia Wyn Jones, a'i arddangos mewn safle arbennig yn yr ardal. Rhaid nodi enw llawn, oedran a'r ysgol mae'r disgybl yn ei mynychu ar ddarn o bapur wedi ei roi mewn amlen wag a'i dapio wrth gefn y llun. Ni fydd lluniau heb amlen wedi ei dapio ar y cefn yn cael ei ystyried ar gyfer y Gystadleuaeth. Bydd y Cwmni'n casglu'r holl geisiadau o'r ysgolion. Ni fydd yn bosib dychwelyd unrhyw luniau. Mae'r Cwmni'n bwriadu dangos detholiad o'r darluniau gorau mewn arddangosfa yn ardal Llangadog
  5. Mae'r Cwmni'n cadw'r hawl i ofyn am brawf ysgrifenedig o oedran unrhyw enillydd ac i anghymwyso unrhyw ymgeisydd os bydd gan y Cwmni sail resymol dros gredu bod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw rai o'r amodau a thelerau hyn.
  6. Dewisir enillydd sydd wedi cynnig y cynllun gorau ym marn panel a benodir gan y Cwmni. Bydd penderfyniad y panel ynghylch yr enillydd yn derfynol, ac ni atebir unrhyw ohebiaeth.
  7. Hysbysir yr enillydd, yr ail a thrydydd yn y Gystadleuaeth drwy ohebiaeth â'r ysgolion perthnasol.
  8. Bydd gwahoddiad i'r cyntaf, yr ail a'r trydydd yn y Gystadleuaeth i fynychu'r cyngerdd yn Eglwys Llangadog ar 13 Rhagfyr 2009.
  9. Ar ôl y dyddiad cau, cyhoeddir manylion yr enillydd ar s4c.co.uk/cystadlaethau am 21 diwrnod neu bydd modd cael y wybodaeth hon trwy ffonio Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 600 4141.
  10. Nid yw aelodau o deulu staff y Cwmni, Mr Producer Cyf ac S4C nac unrhyw gwmni neu sefydliad busnes sy'n gysylltiedig â'r Gystadleuaeth yn gymwys i gymryd rhan yn y Gystadleuaeth.
  11. Dyddiad cau y gystadleuaeth yw 16 Medi 2009. Ni fydd unrhyw geisiadau ar ôl 16:00 ar y dyddiad cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
  12. Efallai y gofynnir i rai o'r cystadleuwyr ymddangos mewn eitem yn y gyfres deledu Seren Bethlehem,a ddarlledir ar S4C, ac i gymryd rhan mewn gweithgaredd hyrwyddo. Er hynny, nid oes unrhyw ymrwymiad ar ran y Cwmni nac S4C i gynhyrchu na darlledu unrhyw raglen sydd yn ymwneud â'r Gystadleuaeth.
  13. Mae'r Cwmni'n cadw'r hawl i ddefnyddio enwau cyntaf ac enw ysgol y cystadleuwyr buddugol, eu lluniau a recordiadau sain a/neu weledol o'r cystadleuwyr a'u lluniau mewn unrhyw gyhoeddusrwydd ac ar wefan y gyfres.
  14. Mae'r Cwmni'n cadw'r hawl i ganslo a/neu ddiwygio'r Gystadleuaeth neu'r Rheolau heb rybudd os bydd y Cwmni o'r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny o ganlyniad i unrhyw amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth resymol y Cwmni.
  15. Defnyddir eich data personol yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 yn unig ac ni chaiff ei ddatgelu i drydydd parti ac eithrio at ddibenion gweinyddu'r Gystadleueth. Dim ond at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth y bydd Boomerang yn defnyddio gwybodaeth bersonol yr ymgeiswyr, ac ni fydd yn defnyddio data o'r fath at unrhyw ddibenion eraill. Bydd Boomerang yn dinistrio'r holl ddata personol y mae'n meddu arno, ac a dderbyniodd fel rhan o'r ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth, wedi i'r gystadleuaeth ddod i ben. Prosesir data personol yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998 ac ni fydd yn cael ei rannu gydag unrhyw drydydd parti heb sicrhau caniatâd ymlaen llaw.
  16. Os bydd unrhyw ddadl yn ymwneud â'r Rheolau, ymddygiad, canlyniadau, gwobrau a phob mater arall yn ymwneud â'r Gystadleuaeth, bydd penderfyniad y Cwmni yn derfynol ac ni dderbynnir unrhyw ohebiaeth na chynnal unrhyw drafodaeth.
  17. Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales