Neidio at y cynnwys

S4C

Cysylltu â ni

Lleoliad S4C

O'r M4 neu o'r Gogledd ar yr A470

Trowch oddi ar yr M4 am Gaerdydd ar Gyffordd 32 neu os ydych yn cyrraedd Caerdydd ar yr A470 fe ddowch i mewn i gyflymder o 40 milltir yr awr, yna:

  1. Yn y trydydd set o oleuadau traffig, trowch i'r chwith i Heol Tyn Y Parc.
  2. Ewch yn eich blaen drwy’r set nesaf o oleuadau traffig i Ffordd Tŷ Wern.
  3. Trowch i'r chwith yn y set nesaf o oleuadau traffig i Ffordd Caerffili.
  4. Trowch i'r dde ar y gylchfan gyntaf i Ffordd Tŷ Glas.
  5. Dilynwch y ffordd hon drwy oleuadau traffig ac ar hyd dau dro yn y ffordd.
  6. Cymerwch yr ail dro ar y dde i Barc Tŷ Glas (gyferbyn â Chanolfan Hamdden Llanisien).
  7. S4C yw'r pedwerydd adeilad ar y chwith.

O ganol y ddinas

Dilynwch yr arwyddion am yr A470 a Merthyr. Wrth fynd dros bont uchel ar yr A470 (yn Gabalfa) cadwch i'r lôn ar y dde a dilynwch arwyddion yr A469 am Gaerffili (rownd tafarn y Cross Inn). Hon yw Ffordd Caerffili. Dilynwch y ffordd nes cyrraedd y gylchfan gyntaf. Dilynwch gyfarwyddiadau 4–7 uchod.

Lawrlwytho map o leoliad S4C (pdf)

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales