Neidio at y cynnwys

S4C

Amserlenni

S4C Digidol

Llun 2010/03/15

07:00 Cyw 888

Rhaglenni ar gyfer y gwylwyr iau.

Content options
07:00 Darllen 'Da Fi - Wini'r Wrach 888

Hanes Wini'r Wrach a'i chath Mali sy'n byw mewn ty lle mae popeth yn ddu, sy'n creu cryn drafferthion.

Content options
07:10 Y Brodyr Coala - Tali'n Dysgu Gwrando 888

Mae'n ddiwrnod newydd arall i'r Brodyr Coala a'u ffrindiau i gyd. Mae'r awyren fach yn sgleinio a Glan a Mostyn yn barod i helpu unrhyw un sydd mewn trwbwl. Tybed pwy fydd angen eu cymorth heddiw?

07:20 Y Dywysoges Fach - Dwi Isio Bod yn Archwiliwr 888

Mae'r Dywysoges Fach eisiau bod yn archwiliwr fel ei hen hen dadcu.

Content options
07:35 Penblwydd Pwy? Merch - Amser chwarae 888

Cyfres adloniadol ac addysgiadol wedi ei hanimeiddio i blant meithrin.

Content options
07:45 123 888

Dewch am dro hudol gyda Dili'r Dylwythen Deg i fyd y rhifau. Awn ar antur heddiw gyda'r rhif 9 i berfformio ar lwyfan y theatr.

08:00 Cyw 888

Rhaglenni ar gyfer y gwylwyr iau.

Content options
08:00 Un Tro - Y Babi Bynip 888

Mae stori heddiw wedi ei selio ar chwedl draddodiadol Y Babi Byniyp o Awstralia. Heddiw mi fydd y Babi Byniyp yn mynd ar daith gyffrous.

08:15 Cwpwrdd Cadi - Yr Artist wrth ei Waith 888

Ymunwch â Cadi a'i ffrindiau ar antur hud yn y gyfres gartwn i blant meithrin.

08:25 Gorsaf Hud - Draig Tsieniaidd 888

Heddiw, mae'r Dychmygwyr yn dawnsio i guriad Tseineaidd wrth i ddraig liwgar ymweld â'r orsaf.

08:40 Bob y Bildar - Trafferth y Tyrchod 888

Rhagor o anturiaethau gyda Bob a'r criw.

08:50 Sali Mali - Canu'n iach 888

Mae Jac Do'n hoff iawn o chwarae â thelyn Sali Mali, er ei fod yn gwybod nad oes hawl ganddo wneud.

Content options
09:00 Cled - Baeddu 888

Hwyl i blant meithrin gydag Cled a'i ffrindiau wrth iddynt ddarganfod y byd gwych sydd o'u hamgylch.

09:10 Sam Tan - Ffws ar y Bws 888 / 889

Mae'n ddiwrnod poeth ond nid yw Trefor yn fodlon cyfaeddef bod ei fws yn rhy hen i fynd fyny mynydd Pontypandy. Mae'n gor-dwymo ac wrth i Trefor agor y bonet mae'n achosi tân.

09:20 Cei Bach - Prys a'r Bochdew 888

Draw yn Ysgol Gynradd Cei Bach mae Prys yn rhoi help llaw gyda dirgelwch mawr iawn - mae bochdew yr ysgol ar goll! Rhaid i Prys a'r plant gael hyd iddo ar frys.

Content options
09:35 Ari Awyren 888

Anturiaethau Ari'r awyren a'i ffrindiau yn Nhretarri.

Content options
09:50 Pingu - Cerfluniau Ia

Anturiaethau Pingu'r pengwin.

Content options
10:00 Igi, Tigi, Bip a Bop - Y Parc 888

Wrth chwarae cuddio yn y parc mae Igi'n dod o hyd i rywbeth gwerthfawr iawn.

10:10 Oli dan y don - Rodeo'r Warden 888

Mae'r Warden yn trefnu ei Rodeo flynyddol ond daw morfilod Orca draw a rhwystro'r hwyl.

10:20 Cegin Twts - Nygets Cyw Iar 888

Cyfres i gyflwyno bwyd a choginio i blant meithrin. Yn y rhaglen hon bydd Twts a Martyn yn coginio Nygets Cyw Iâr iachus.

Content options
10:35 Wibli Sochyn y Mochyn - Swigod 888

Wibli druan - mae ganddo set swigod newydd sbon ond mae pawb yn gallu chwythu swigod heblaw amdano ef. Mae o un ai'n chwythu'n rhy galed neu'n rhy ysgafn. Mae hyd yn oed Porchell a'r awel yn gallu chwythu swigod yn well na Wibli! Pa fath o siapiau maen nhw'n gallu eu chwythu? Swigod sgwâr, swigod hir a swigod sgleiniog! Fydd Wibli wedi dysgu i chwythu'r swigen berffaith cyn diwedd y dydd?

Content options
10:45 Tomos a'i Ffrindiau - Byffar Newydd 888

Anturiaethau Tomos y Tanc a'i ffrindiau.

Content options
11:00 Y Teulu Mawr - Gwisg Ffansi 888

Mae'r Teulu Mawr wedi gwneud eu gwisgoedd eu hunain ar gyfer y parti gwisg ffansi yn yr ysgol, tra bo'r Teulu Twt wedi llogi rhai o'r siop. Ond gwisgoedd pwy fydd orau tybed?

11:10 Nodi - Y Trowsus Cyflym

All Plismon Plod ddim stopio rhedeg yn wyllt o gwmpas Gwlad y Teganau.

11:20 Bws Parti - Parti Paentio 888

Dewch gyda Lowri a'i ffrindiau ar daith yn y Bws Parti i barti arbennig yn llawn hwyl a sbri, lliwio a gemau, canu a dawnsio.

Content options
11:35 Stori'r Anifeiliaid - Jen y Crocodeil 888 / 889

Cyfres animeiddiedig a leisir gan Caryl Parry Jones.

11:40 Heini - Golff a Tenis 888

Cyfres llawn egni a chyffro yng nghwmni'r cymeriad lliwgar "Heini". Yn y rhaglen hon bydd "Heini" yn cael hwyl yn chwarae golff a thenis.

12:00 Tecwyn y Tractor - Ysgol 888 / 889

Mwy o anturiaethau'r tractor bach coch.

12:15 Holi Hana - Y famgu Ore'n y Byd 888

Problem Francis yw bod popeth wedi newid pan ddaeth Mamgu i aros gyda nhw. Roedd Francis wrth ei fodd pan ddywedodd ei fam bod Mamgu yn dod i aros ond pan sylweddolodd ei fod yn gorfod rhoi ei wely iddi a rhannu gyda'i fam doedd o ddim yn hapus iawn. Aeth pethau o ddrwg i waeth hyd yn oed ar ôl i Muzzy drio gael help iddo gan "Holi Hana". Ond ar ôl i Francis dreulio prynhawn yn y wlad gyda Mamgu a mwynhau dysgu a darganfod yn ei chwmni mae'n drist iawn pan mae hi'n gorfod mynd yn ôl adref.

Content options

12:30 Cyw 888

Rhaglenni ar gyfer y gwylwyr iau.

Content options
12:30 Y Dywysoges Fach - Dwi Isio Casglu 888

Mae'r Dywysoges Fach eisiau dechrau casgliad o rhyw fath, ond beth all hi gasglu?

Content options
12:45 Ffi-ffi a'i Ffrindiau 888

Cyfres wedi'i hanimeiddio i blant ifanc, sy'n dilyn helyntion Ffi Ffi a'i Ffrindiau sy'n byw mewn gardd hudol.

Content options
13:00 Twm Tisian - Golchi Car 888

Mae Twm Tisian wedi prynu blodau hardd i'w famgu, ond cyn iddo fynd i'w gweld hi mae'n rhaid iddo olchi ei gar budr.

Content options
13:05 Peppa Pinc - Camera Dadi 888 / 889

Cartwn yn dilyn anturiaethau Peppa Pinc, ei brawd George a'i rhieni. Maent yn deulu o foch sy'n mwynhau chwarae gemau, gwisgo lan a neidio yn y mwd!

Content options
13:15 a b c - 'A' 888

Ymunwch yn yr hwyl wrth i Gareth, Cyw, Bolgi, Llew, Jangyl, Plwmp a Deryn geisio datrys dirgelwch y goeden afalau ym mhennod heddiw o abc.

Content options

13:30 Penawdau Newyddion 888

Penawdau newyddion a'r tywydd.

13:33 Y Tywydd

Y Tywydd.

Content options

13:35 Wedi 7 888

Bydd Rhodri yn cwrdd â gwr fydd yn cystadlu yn ras rwyfo Rhydychen yn erbyn Caergrawnt ond sydd â'i wreiddiau yma yng Nghymru. Hefyd bydd cyfle i chi ennill tusw o flodau a photel o Siampên yn anrheg Sul y Mamau.

Content options

14:00 O'r Galon: Ar Brawf 888 / 889

Golwg ar wythnos ym mywyd Swyddog Prawf wrth i ni ddilyn Lowri Thomas, 26 oed, wrth ei gwaith yn ardal Llanelli.

14:30 Jacpot

Aur pur o'r archif! Cyfle i fwynhau un o gyfresi cwis mwyaf poblogaidd S4C erioed. Bob prynhawn bydd y cwis feistr Kevin Davies yn croesawu 16 cystadleuydd i'r stiwdio. Gydag un person 'ar y banc', bydd y gweddill yn gofyn cwestiwn sy'n odli, i geisio am y wobr Jacpot sydd wedi ei chuddio yn un o'r cardiau cwestiwn. Digon o dynnu coes, baglu dros eiriau, a thensiwn wrth i'r gwobrau ddod i'r golwg.

14:55 Penawdau Newyddion 888

Penawdau newyddion a'r tywydd.

14:58 Y Tywydd

Y Tywydd.

Content options

15:00 Wedi 3 888

Heddiw byddwn yn rhannu syniadau lliwgar iawn i addurno'r ty a bydd Einir Siôn yn bwrw golwg dros arlwy'r teledu ar gyfer yr wythnos. Hefyd bydd Angharad Pierce Jones yn edrych ar arddangosfa o waith yr artist ifanc Naomi Smith yng Ngardd Botaneg Cymru.

Content options

16:00 Planed Plant

Rhaglenni i'r gwylwyr iau.

Content options
16:00 Beyblade

Cyfres gartwn llawn antur a chyffro.

16:25 Stwffio - Sir Ddinbych 888 Sain ddisgrifio

Yr wythnos hon, bydd Al ac Ant yn ymweld â Sir Ddinbych i baratoi brithyll lleol a chwningen i'r actores, Manon Elis.

16:55 Ffeil 888

Newyddion i bobl ifainc.

17:05 Y Garej 888

Yn Y Garej heddiw mae'r DJ Dafydd Du. Bydd e'n taclo'r teclynnau ac yn ceisio profi ei sgiliau ar y cart rasio.

Content options
17:30 Hotel Eddie - Sgarled 888

Mwy o helyntion gwallgo yng nghwmni criw Hotel Eddie. Yn y bennod hon mae Eddie yn syrthio mewn cariad â dynes o'r enw Sgarled. Mae Emma'n darganfod ei bod hi'n ceisio twyllo Eddie ac mae'n gwneud popeth yn ei phwer i rhwystro'r briodas. A fydd hi'n llwyddiannus?

18:00 Pobol y Cwm 888

Siom i Macs wrth i Siôn barhau i'w ddiarddel o'r teulu. Mae gan Brandon newyddion drwg ar gyfer Dani. Teimla Ffion ei bod yn cael ei ynysu fwyfwy yn y pentref.

Content options

18:30 Tocyn - Cymru 888 Sain ddisgrifio

Yr wythnos hon mae Tocyn yn canolbwyntio ar wyliau hunangynhaliol yng Nghymru. Byddwn ni'n ymweld â'r Bath Tower yng Nghaernarfon, cabanau pren moethus yn Nhrefeglwys ger Caersws, a hen sgubor sydd bellach yn llety anhygoel yn Nhrefynwy.

Content options
18:58 Penawdau Newyddion 888

Penawdau newyddion a'r tywydd.

19:00 Wedi 7 888

Bydd rhai o fyfyrwyr Coleg y Drindod yn trafod y daith o'u sioe gerdd 'Heb ei Fai' ac yn perfformio un o'r caneuon yn fyw yn y stiwdio. Hefyd bydd Aneirin yn cofio 150 mlynedd ers geni'r cerflunydd byd enwog Syr Williams Goscombe John a bydd cyfle i chi ennill pâr o docynnau i gêm rygbi Cymru v Yr Eidal.

Content options

19:30 Newyddion 888

Newyddion a'r tywydd.

19:58 Y Tywydd 888

Y Tywydd.

Content options

20:00 Pobol y Cwm 888 / 889

Sut mae Cai yn teimlo ynglyn â bod nôl gartref? Mae Gaynor o dan straen a gwelwn Mark yn cynnig cefnogaeth a chysur iddi. A yw Gaynor yn credu Izzy am ei chyfeillgarwch â Cai?

Content options

20:25 Ffermio 888

Bydd Daloni Metcalfe ym Mhen Llyn yn ymweld â spa ar fferm. Yn ardal Esgairdawe bydd Alun Elidyr yn edrych ar ddyddiaduron a byddwn yn dilyn ffarmwr o Sir Gaerfyrddin i ben draw'r byd.

Content options

20:55 Y Tywydd 888

Y Tywydd.

Content options
20:55 Penawdau Newyddion 888

Penawdau newyddion a'r tywydd.

21:00 Cefn Gwlad - Cyril Lewis, Penmachno 888 / 889 Sain ddisgrifio

Dai Jones, Llanilar sy'n ymweld â Cyril a Hefina Lewis, ym Mhen y Bryn, Penmachno, ger Betws y Coed. Mae Cyril wedi bod yn flaengar ym myd y Defaid Mynydd Cymreig dros y blynyddoedd.

Content options

21:30 Taro 9 - Madkour 888

Ymchwiliad arbennig i hanes meddyg ymgynghorol a weithiodd yn Ysbyty Gwynedd, Bangor am dros ugain mlynedd ac a gafodd ei ddiarddel gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn mis Medi 2009 am esgeulustod clinigol.

22:00 Sgorio 888

Bydd Sgorio yn cynnwys uchafbwyntiau gêm Casnewydd v Havant & Waterlooville a chwaraewyd yn gynharach heno. Bydd buddugoliaeth i Gasnewydd yn erbyn y tîm o Hampshire yn golygu y byddan nhw'n cael eu coroni'n Bencampwyr Cynghrair Blue Square y De ac yn ennill dyrchafiad i'r Blue Square League ble byddan nhw'n cystadlu yn erbyn Wrecsam y tymor nesaf.

Content options

22:50 Penawdau Newyddion 888

Penawdau newyddion a'r tywydd.

22:53 Y Tywydd

Y Tywydd.

Content options

22:55 C'Mon Midffild - Mi Af I Briodas Yfory 888 / 889

Cyfres drama gomedi yn dilyn helyntion tîm pêl-droed Bryncoch United. Mae priodas yn y gwynt. Ond priodas pwy?

23:25 Y Tywydd

Y Tywydd.

Content options

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales