Dai Jones, Llanilar yn ymweld â Catrin Edwards a'i theulu, ar fferm Pen y Bryn, Groesffordd, Llanrwst; merch ifanc â diddordeb brwd mewn stoc a ffermio, ers yn ferch fach.
Yr wythnos hon, bydd Twm Morys yn ymuno â Iolo Williams i grwydro yn y Mynyddoedd Duon ar y ffin rhwng Sir Frycheiniog a Sir Fynwy. Yn ystod y daith byddant yn ymweld âg eglwys hynod Patrisw, un o drysorau cudd Cymru.
Oedfa'r Bore yng ngofal disgyblion Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pontypwl, yn seiliedig ar y sioe gerdd 'Godspell', gan sôn yn bennaf am ddyddiau olaf Crist yn ôl Efengyl Sant Matthew.
Unawd Piano dros 19 oed a'r Unawd Offeryn Pres yn dod â'r cystadlu i ben ar ail ddiwrnod Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010.
Yr archdderwydd, awdur a dramodydd T. James Jones sy'n rhannu ei atgofion gyda Heledd Cynwal yr wythnos hon.
Holl ganlyniadau'r dydd o faes Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010 yng nghwmni Rhun ap Iorwerth a Jason Mohammad.
Alwyn Humphreys sy'n arwain Y Gymanfa Ganu gyda David Martyn Jones ar yr organ a chyfeiliant ychwanegol gan Band Pres Tref Tredegar o bafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010.
Rhyddid yr unigolyn ydy'r pwnc sydd o dan sylw heno wrth i'r hanesydd Hywel Williams, y colofnydd Rhys Mwyn a'r ddarlledwraig Catrin Beard ymuno â Rhun ap Iorwerth.
Holl ganlyniadau'r dydd o faes Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010 yng nghwmni Rhun ap Iorwerth a Jason Mohammad.
Guto Harri sy'n mynd ar drywydd brodor o Drawsfynydd sy'n debygach i James Bond nac i Sant. Ond - yn ôl yr Eglwys Gatholig - Sant yw John Roberts, a fu farw 400 mlynedd yn ôl.
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales