27/06/2008
Mae S4C wedi ennill un o brif wobrau Gŵyl Hysbysebu Rhyngwladol Cannes Lions 2008.
Enillodd S4C y wobr arian yng nghategori Dylunio a Graffeg Darlledu am ei ffilmiau byrion arloesol ble mae gwahanol wrthrychau yn symud i gyfeiliant llais.
Mae’r deg ffilm fer 20 eiliad o hyd, sy’n ymddangos rhwng rhaglenni, yn cynnwys golygfeydd o bob cwr o Gymru. Mae’r gwrthrychau a welir yn y ffilmiau - boed yn oleuadau mewn siop fawr yng Nghaerdydd neu’n falŵns yn yr awyr - yn symud mewn ymateb i lais y cyhoeddwr.
Cyfarwyddwyd y ffilmiau byrion gan Luc Schurgers ac fe’u cynhyrchwyd gan Roger Whittlesea o Proud. Goruchwyliwyd y gwaith gan Dylan Griffith, cyn Gyfarwyddwr Creadigol S4C.
Diwedd
Nodiadau i’r Golygydd
Mae delwedd brand newydd S4C, a lansiwyd yn Ionawr 2007, wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys:
1. Y wobr Total Package yng Nghategori Dylunio EBU Connect Awards 2007.
2. Categori Brand Cymreig yng Ngwobrau Dylunio Dwyieithog 2007 a drefnwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.