Y Wasg

S4C i ddarlledu o’r Cynulliad

26/03/2010

Yn dilyn trafodaeth yn y Senedd ddydd Mawrth, 23 Mawrth, mae S4C yn cadarnhau'r bwriad i gyflwyno darllediadau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y brif Sianel drwy’r Deyrnas Unedig.

Mae rhoi amlygrwydd i’r trafodion ar Sianel sy’n cyrraedd holl gartrefi Cymru a thanysgrifwyr Sky y tu hwnt i Gymru yn bwysig i S4C fel sianel gyflawn Gymraeg yn yr oes gwbl ddigidol.

Bydd sesiynau llawn y Cynulliad a rhai pwyllgorau yn cael eu darlledu ar nosweithiau Mawrth, Mercher ac Iau o fis Ebrill ymlaen.

Byddwn yn cyhoeddi manylion pellach cyn hir.

Diwedd

Mwy o newyddion

Hafan y wasg