Y Wasg

Newidiadau i strwythur S4C

30/01/2007

Mae S4C wedi cyhoeddi strwythur trefniadol newydd yn dilyn y penderfyniad i greu arwahanrwydd rhwng Awdurdod a Swyddogion S4C.

Bydd Bwrdd Cyfarwyddwyr newydd – yn seiliedig ar chwe Chyfarwyddiaeth; Comisiynu, Cyfathrebu, Cyllid ac Adnoddau Dynol, Darlledu a Dosbarthu, Materion Busnes, a Polisi Corfforaethol a Masnachol – yn cymryd lle’r strwythur adrannol ac is-adrannol presennol.

Bydd S4C hefyd yn penodi aelod anweithredol i’r Bwrdd. Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, fydd yn cadeirio’r Bwrdd.

Bydd Cyfarwyddwyr y Bwrdd yn gyfrifol am sicrhau fod amcanion a thargedau S4C yn cael eu gweithredu a’u cyfathrebu’n effeithiol, yn fewnol ac allanol, yn seiliedig ar y Cynllun Corfforaethol, y Strategaeth Rhaglenni a’r Datganiad Polisi Rhaglenni.

Mae’r strwythur newydd wedi’i gymeradwyo gan Awdurdod S4C.

Diwedd

Gwybodaeth ychwanegol:

Bydd y cyfarwyddwyr canlynol yn aelodau o’r Bwrdd:

Rhian Gibson Comisiynu

Huw Rossiter Cyfathrebu

Kathryn Morris Cyllid ac Adnoddau Dynol

Arshad Rasul Darlledu a Dosbarthu

Delyth Wynne Griffiths Materion Busnes

Nerys Hopkins Polisi Corfforaethol a Masnachol

Nia Ebenezer yw Swyddog Gweithredol y Bwrdd Rheoli.

Mwy o newyddion

Hafan y wasg