Y Wasg

Deg Enwebiad i raglenni S4C yn y Geltaidd

30/01/2007

Mae cyfresi drama, dogfen, adloniant a materion cyfoes ymhlith deg enwebiad a enillwyd gan raglenni S4C yn yr Ŵyl Ffilm a Theledu Geltaidd, a gynhelir fis Mawrth eleni ar ynys Skye yn yr Alban.

Mae penodau o’r dramâu Con Passionate a Cowbois ac Injans, rhaglenni am y soprano Elin Manahan Thomas a’r pianydd Llŷr Williams, y gyfres Popeth yn Gymraeg a rhaglen ddirdynnol y newyddiadurwr Tweli Griffiths, Nôl i Ethiopia, i gyd wedi eu henwebu.

Mae’r rhaglen ddogfen am Gwynfor Evans, Gwynfor - Yr Aelod Dros Gymru? a’r gyfres Dudley - Y Glannau hefyd wedi eu henwebu, yn ogystal â phennod o’r gyfres i blant a phobl ifanc, Campyfan, a’r animeiddiad, Map yr Underground.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Mae’r Ŵyl Ffilm a Theledu Geltaidd yn denu cystadleuwyr o bob cwr o Brydain a thu hwnt, ac mae ennill deg enwebiad yn dipyn o gamp. Llongyfarchiadau gwresog i’r timau talentog oedd yn gweithio ar y rhaglenni hyn yn y sector annibynnol, ITV Cymru a BBC Cymru.”

RHESTR ENWEBIADAU S4C

Animeiddio

Map yr Underground Griffilms

Dogfen Gelfyddydol

Elin Manahan Thomas – Soprano Bach P.O.P.1.

Pobl Ifanc

Campyfan BBC Cymru

Materion Cyfoes

Nôl i Ethiopia ITV Cymru

Dogfen Nodwedd

Popeth yn Gymraeg Cwmni Da

Cyfres Ddrama

Con Passionate Teledu Apollo

Cowbois ac Injans Opus TF

Adloniant

Y Pianydd Llŷr Williams Opus TF

Dudley - Y Glannau Opus TF

Dogfen Ffeithiol

Gwynfor – yr Aelod Dros Gymru? BBC Cymru

Cynhelir yr Ŵyl Ffilm a Theledu Geltaidd ar 28-30 Mawrth 2007.

Mwy o newyddion

Hafan y wasg